Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwiber

Y wiber yw'r unig neidr wenwynig yn y DU, ond nid yw'n rhywogaeth ymosodol. Ceir gwiberod mewn ardaloedd o gefn gwlad garw รข chynefinoedd ffiniol yn bennaf. Nid ydynt yn tyfu'n hirach na 75cm ac mae'r nadroedd benyw yn hirach na'r rhai gwryw. Mae eu lliw yn amrywio, ond mae gan bob un batrwm igam-ogam tywyll unigryw ar hyd ei asgwrn cefn.

Y ffordd orau o ddod o hyd iddynt yw drwy symud yn araf ar hyd ymyl llwybr drwy redyn, ond bydd rhaid i chi fod yn dawel iawn a chael llygad barcud i gael cip ar un.

Y man gorau i'w gweld = Ton-mawr

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gwiber Froglife.

Gwiber