Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Eog

Mae cylch bywyd yr eog yn adnabyddus gyda'r oedolion yn dychwelyd o'r môr i'r afonydd lle gwnaethant ddeor yn silod. Fel arfer maent yn tyfu hyd at 76cm gan bwyso hyd at 5.4kg. Pan fyddwch yn eu gweld yn llamu, mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt â siwin.  Pan fyddant yn ifanc, byddant yn bwydo ar bethau megis pryfed gwellt a gwybed Mai. Wedi tyfu'n oedolion byddant yn bwydo ar bysgod eraill, môr-lewys a berdys.

Mae rhaglenni dogfen bywyd gwyllt yn aml yn dangos golygfa drawiadol o niferoedd mawr o eogiaid yn llamu i fyny afonydd. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi deithio i Ganada i weld eogiaid yn llamu. Mae gan bob un o'n prif afonydd eogiaid ynddynt. O fis Tachwedd i fis Chwefror mae gennych y cyfle i'w gweld yn neidio dros goredau a rhaeadrau i gyrraedd eu hardaloedd silio.

Y man gorau i'w gweld = Cored Ystalyfera

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan Ymddiriedolaeth Eog yr Iwerydd.

Eog