Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Glesyn bach

Dyma ieir bach yr haf lleiaf y DU, ond gellir gweld nifer mawr ohonynt mewn rhai mannau. Mae rhan uchaf eu hadenydd yn dywyll ag arlliw o las ac oddi tanynt yn frown-las golau iawn â smotiau du amlwg; nid oes unrhyw oren arni fel y glesyn cyffredin. Er y gall gleision cyffredin fod yn fach iawn, mae'r glesyn bach yn hyd yn oed llai ac nid yw lled ei hadenydd yn fwy na 30mm.

Maent yn dibynnu'n llwyr ar y blucen felen fel y planhigyn bwyd lindys. Maent yn byw mewn nythfeydd a gellir eu gweld yn clwydo, â'u pennau i lawr, mewn glaswellt. Gwelir gleision bach ar hyd llain arfordirol CNPT ac mewn rhai safleoedd mewndirol, yn enwedig lle mae digonedd o blucen felen.

Y man gorau i'w gweld = O amgylch swyddfa'r Ceiau, CBSCNPT.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gwarchod Glöynnod Byw am y Glesyn Bach.

Glesyn bach