Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Corryn rafft y ffen

Dyma gorryn mwyaf y DU, ac un o'r rhai prinnaf. Gall y corryn trawiadol hwn dyfu i 23mm ac mae ganddo linell wen/hufen/felen ar hyd un ochr ei gorff. Maent yn rhannol-ddyfrol ac yn ffafrio ardaloedd ar hyd ymyl y dŵr â phlanhigion anystwyth, ifanc a ddefnyddir ganddynt i greu gweoedd meithrin sy'n cadw'r epil. Maent mor fawr, gallant ddal a bwyta pysgodyn crothell.

Mewn 3 safle yn unig yn y DU y ceir y corynnod hyn, a Chamlas Tennant yw'r un a ddarganfuwyd ddiweddaraf. Y ffordd orau o weld y creaduriaid hyn yw ymweld â'r gamlas yn ystod yr haf a chwilio am gorynnod ymysg llystyfiant ifanc.

Yr unig fan i'w gweld = Camlas Tennant

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Corryn Rafft y Ffen.

Corryn rafft y ffen