Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Masnachu ar y stryd

Mae'r darpariaethau masnachu ar y stryd wedi'u mabwysiadu ar draws bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn golygu bod angen i unrhyw berson sydd am fasnachu ar y stryd gael caniatâd gan yr awdurdod. Diffinnir masnachu ar y stryd fel gwerthu, dangos neu gynnig unrhyw eitem i'w gwerthu (gan gynnwys peth byw) mewn stryd, sy'n cynnwys unrhyw ffordd, troedffordd, traeth neu ardal arall y gall y cyhoedd gael mynediad iddi'n ddi-dâl a thir/ffordd ger gorsaf betrol.

Gan ddibynnu ar y dull o fasnachu a ffefrir gennych, mae'r cyngor yn cynnig caniatâd lleoliad penodol neu ganiatâd crwydrol.  Mae masnachu mewn lleoliad penodol yn golygu y gall y masnachwr fasnachu yn y lleoliad a nodir ar ei ganiatâd yn unig, e.e. fan byrgyrs. Bydd masnachwr crwydrol yn symud o stryd i stryd ac yn aros yn yr un lle am y cyfnod pan wneir gwerthiannau'n unig, e.e. gwerthwr hufen iâ.

Hefyd, mae'r cyngor yn cynnig caniatâd "Digwyddiad Arbennig" sy'n ddilys am ychydig ddiwrnodau yn ystod gŵyl neu farchnad benodol.

Mae'r cyngor wedi mabwysiadu polisi masnachu ar y stryd y mae'n rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio ag ef. Cynghorir ymgeiswyr i ddarllen y polisi cyn cyflwyno cais.

Gwneud cais