Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Delwyr metel sgrap

Mae'n ofynnol i ddelwyr metel sgrap feddu ar drwydded, ac mae gweithredu heb un yn drosedd. O dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013, caiff diffiniad deliwr metel sgrap ei ehangu i gynnwys gweithredwyr adfer moduron.

Mae'n anghyfreithlon talu arian parod am fetel sgrap a gynigir i chi. Mae'n rhaid i unrhyw daliad fod trwy siec neu drosglwyddiad electronig (wedi'i awdurdodi gan gerdyn debyd neu gredyd).

Er mwyn i unrhyw un barhau i weithredu fel deliwr metel sgrap, mae'n rhaid iddo feddu ar drwydded a fydd yn parhau am 3 blynedd.

Ceir dau fath o drwydded:

  • trwydded Safle
  • trwydded Casglwr

Trwydded Safle

Os yw delio metel sgrap yn digwydd yn eich busnes, mae angen trwydded safle arnoch. Hefyd, mae angen enwi rheolwr safle ar gyfer pob safle. Mae'r drwydded hon yn caniatáu i'r trwyddedai gludo metel sgrap i'r safleoedd hynny ac ohonynt mewn unrhyw ardal awdurdod lleol.

Trwydded Casglwr

Os ydych yn casglu metel sgrap, mae angen trwydded casglwr arnoch. Mae angen trwydded ar wahân arnoch ar gyfer pob ardal awdurdod lleol rydych yn casglu ohoni. Nid yw'r drwydded yn rhoi awdurdod i chi weithredu safle.

Caiff deliwr metel sgrap un math o drwydded yn unig mewn unrhyw ardal awdurdod lleol. Dylech benderfynu a ydych yn mynd i gael trwydded safle neu deithiol mewn unrhyw ardal.