Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trwyddedu anifeiliaid

Mae'r côdau ymarfer a canllawiau lles anifeiliaid ar gael ar wefan Llwyodraeth Cymru

Mae trwyddedau anifeiliaid yn ofynnol mewn nifer o amgylchiadau:

Lletya Anifeiliaid

O dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963, mae'n rhaid i unrhyw un sydd am barhau â'r busnes o ddarparu llety i gŵn a chathod pobl eraill gael trwydded.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn berthnasol i lety a gynigir mewn llety cŵn pwrpasol, ond mae hefyd yn berthnasol lle cynigir llety yng nghyfeiriad cartref person, y cyfeirir yn aml ato fel lletya cartref.

Rydym wedi mabwysiadu amodau ar gyfer sefydliadau lletya, y mae'n rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â hwy cyn y gellir rhoi trwydded. Cynghorir ymgeiswyr i ddarllen yr amodau cyn cyflwyno cais.

Gwneud Cais Ar-lein

Bridio Cŵn

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n bridio a gwerthu cŵn feddu ar drwydded gan y cyngor.

Rydym yn sicrhau bod gan anifeiliaid lety, eu bod yn cael bwyd ac ymarfer corff ac yn cael eu diogelu rhag clefydau a thân cyn rhoi trwydded.

Mae gennym bwerau helaeth i wirio safonau iechyd, lles a llety'r anifeiliaid a gorfodi'r gyfraith ar gyfer y meysydd hyn.

Rydym wedi mabwysiadu amodau ar gyfer sefydliadau lletya, yn ogystal ag amodau gorfodol a nodir mewn deddfwriaeth, y mae'n rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â hwy cyn y gellir rhoi trwydded.

Cynghorir ymgeiswyr i ddarllen yr amodau cyn cyflwyno cais.

Gwneud Cais Ar-lein

Dysgwch sut i sylwi ar arwyddion gwerthwr anifeiliaid anwes twyllodrus.

Anifeiliaid Gwyllt Peryglus

O dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, mae'n drosedd cadw anifeiliaid a restrir yn yr atodlen i'r Ddeddf heb drwydded gan y cyngor.

Os cedwir anifeiliaid o'r fath heb drwydded, mae gan yr Awdurdod Lleol bŵer i'w hatafaelu a naill ai eu cadw, eu dinistrio neu fel arall, gael gwared ar anifeiliaid heb drwydded. Nid yw'r ddeddf yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir mewn sŵau, syrcasau neu siopau anifeiliaid anwes.

Mae'r atodlen yn cynnwys rhestr hir o anifeiliaid gan gynnwys baeddod gwyllt, estrys, mwncïod a rhai madfallod a nadredd. Diben y Ddeddf yw diogelu'r gymuned rhag anifeiliaid gwyllt a allai fod yn beryglus i'r cyhoedd.

Os nad ydych yn siŵr a yw anifail ar yr atodlen ar gyfer y Ddeddf, dylech gysylltu â'r Is-adran Drwyddedu.

Gwneud Cais Ar-lein

Siopau Anifeiliaid Anwes

Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cadw siop anifeiliaid anwes feddu ar drwydded a roddir gan y cyngor. Mae 'siop anifeiliaid anwes' yn eiddo lle cynhelir busnes gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, neu lle cedwir anifeiliaid er mwyn eu gwerthu.

Rydym wedi mabwysiadau amodau ar gyfer Siopau Anifeiliaid Anwes, y mae'n rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â hwy cyn y gellir rhoi trwydded. Cynghorir ymgeiswyr i ddarllen y canllawiau cyn cyflwyno cais.

Gwneud Cais Ar-lein  

Trwydded Sŵ

Rydym yn gyfrifol am drwyddedu sŵau o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981.

Diffinnir sŵ fel "unrhyw sefydliad ac eithrio syrcas neu siop anifeiliaid anwes lle cedwir anifeiliaid i'w harddangos i'r cyhoedd am fwy na 7 niwrnod mewn unrhyw 12 mis olynol". Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i gyflwyno cais ar gael gan GOV.UK

Gwneud Cais Ar-lein

Anifeiliaid Perfformio

Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un i hyfforddi neu arddangos anifail perfformio oni bai ei fod wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925.

Bwriedir i'r Ddeddf gynnwys defnyddio anifeiliaid mewn perfformiadau llwyfan megis syrcasau, fel rhan o arddangosfa neu raglen addysgol, hyd yn oed lle nad oes tâl am y perfformiad. Wedi i chi gael eich cofrestriad, nid oes angen i chi ei adnewyddu.

Gwneud Cais Ar-lein