Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Casgliadau elusennol

Os ydych yn dymuno casglu arian neu eitemau i'w gwerthu at ddibenion elusennol, mae angen naill ai trwydded o dŷ i dŷ neu hawlen casgliadau stryd arnoch.

Casgliadau stryd

Bydd angen hawlen casgliadau stryd ar gyfer unrhyw gasgliad elusennol mewn man cyhoeddus, boed ar stryd gyhoeddus ai peidio.

Nid yw codi arian drwy ddebyd uniongyrchol yn cael ei gynnwys o dan y ddeddfwriaeth ac nid oes angen hawlen i wneud hyn.

Caniateir casgliadau ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn unig fel arfer. Oherwydd hyn, dim ond un casgliad y gellir ei wneud ar un adeg ym mhob tref yn y fwrdeistref. Po gynharaf y byddwch yn gofyn am ddyddiad, y mwyaf tebygol y byddwch yn cael y dyddiad o'ch dewis. Os nad oes lle ar y dyddiad gofynnol, cynigiwn ddyddiadau eraill i chi.

Ar ôl cynnal eich casgliad, mae gennych fis i gyflwyno datganiad o gyfrifon. Mae hyn yn dangos y swm a godwyd, y gwariant a'r cyfanswm terfynol a gasglwyd ar gyfer y sefydliad penodol.

Gwneud cais am hawlen casgliadau stryd

Casgliadau o dŷ i dŷ

Os ydych yn bwriadu casglu arian elusennol o ddrws i ddrws, o siop i siop neu o dafarn i dafarn, mae angen hawlen o dŷ i dŷ arnoch.

Mae'r Swyddfa Gartref yn eithrio rhai elusennau cenedlaethol ac nid oes angen hawlen casglu arnynt. Y cyfan mae angen ei wneud yw rhoi gwybod i ni am y dyddiadau a'r lleoedd casglu yn y fath achosion.

Ar ôl cynnal eich casgliad, mae gennych fis i gyflwyno datganiad o gyfrifon. Mae hyn yn dangos y swm a godwyd, y gwariant a'r cyfanswm terfynol a gasglwyd ar gyfer y sefydliad penodol.

Gwneud cais am hawlen casgliadau o dŷ i dŷ