Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ystadau diwydiannol

Mae'r is-adran Ystadau a Phrisio yn rhan o Wasanaethau'r Amgylchedd ac mae'n rheoli'r unedau diwydiannau cychwynnol sydd ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae 11 ystâd ddiwydiannol (gweler y ddewislen ar y chwith) a cheir tua 220 uned ar hyd a lled y fwrdeistref sirol sydd ar gael i fusnesau sy'n cychwyn. Mae'r unedau/swyddfeydd yn amrywio yn eu maint o 13.94 metr sgwâr (150 tr) i 464.52 metr sgwâr (5,000 tr) ar gyfer defnydd masnachol amrywiol. Fodd bynnag, o dan reoliadau cynllunio, ni chaniateir manwerthu.

Gwneud cais am ystad diwydiannol

Darperir yr undedau diwydiannol i gynorthwyo busnesau ac, felly economi leol yr ardal gyfagos. O ganlyniad, ni chaiff ceisiadau eu hystyried gan unigolion sydd am eu defnyddio at ddibenion preifat e.e. storio eitemau cartref, grej preifat etc.

Gweld eiddo

Yn gyntaf, argymhellwn i chi edrych ar y tu allan i'r eiddo i sicrhau y byddai'r lleoliad yn addas ar gyfer eich busnes. Cyn bod modd trefnu apwyntiad am weld y tu mewn i eiddo, mae angen i fusnesau newydd gyflwyno cynllun busnes o'u menter arfaethedig. Bydd gofyn i fusnesau sefydledig ddarparu llythyr ynghylch y bwriad, gan amlinellu'r wybodaeth am y busnes h.y:

  • faint o swyddi fydd yn cael eu creu
  • pa brofiad sydd gennych
  • am faint mae'ch busnes wedi gweithredu

Derbynnir ceisiadau neu ymholiadau drwy e-bost, yn ysgrifenedig neu drwy gwblhau'r ffurflen cysylltu a ni ar-lein.

Trethi busnes

Byddwch yn gyfrifol am dalu trethi busnes ar wahan i'r Cyngor. Gallwch gyfrifo'r dreth ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Werthuso neu drwy gysylltu ag Is-adran Trethi Annomestig y Cyngor ar 01639 764328.

Taliadau/ffioedd arall

Fel tenant masnachol, y byddwch yn gyfrifol am nifer o gostau sy'n ymwneud a llety sy'n ychwanegol i'r costau gweithredy pob dydd arferol.

Dyma'r costau nodweddiadol:

Rhent/ffi trwydded

Byddwch yn gyfrifol am dalu rhent i'r Cyngor am y safle rydych yn ei ddefnyddio. Dylid talu pob taliad fel a nodir yn eich cytundeb prydles neu denantiaeth ac, fel arfer, dylid talu'r rhain bob mis ymlaen llaw. Fel arfer, defnyddir debyd uniongyrchol i wneud y taliadau hyn.

Yswiriant

Mae'r Cyngor yn yswirio'r safle, gyda'r tenant yn ad-dalu'r premiwm. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr yswiriant yn ddigonol ar eich cyfer chi, a threfnu yswiriant ychwanegol, os bydd angen, ac yswiriant cynnwys.

Taliadau gwasanaethau

Y rhai sydd fel arfer yn berthansol, i adeiladau masnachol. Os byddant yn berthnasol, bydddant wedi'u nodi yn eich prydles, a gallent gynnwys gwasanaethau megis atgweiriadau, glanhau, diogeledd etc.