Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gweithdai Pentref Glyn-nedd

Mewn lleoliad cyfleus ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ben gogleddol yr A465 gyda chysylltiadau trafnidiaeth da â Chastell-nedd, yr M4, Aberhonddu a'r tu hwnt.

Mae'n gyfleus felly i wasanaethu de Cymru gyfan. Mae'r ardal yn gyfoethog ei threftadaeth ddiwydiannol a'i gwerthoedd cymunedol. Mae'r ystâd yn cynnwys unedau unigol tua 500tr. sgwâr ac un cwrt 1,900tr. sgwâr gyda swyddfa, cyfleusterau toiledau a drysau rholio ar
gyfer pob uned.

Lleoliad

Gweithdai Pentref Glyn-nedd, Castell-nedd, SA11 5RG

O G43 yr M4, dilynwch yr arwydd A465 i Ferthyr Tudful, gan barhau yn eich blaen ar y cylchdro yn Resolfen, gadael yr A465 ac ymuno â'r B4242 wrth fynd i mewn i Lyn-nedd. Mae arwydd i'r gweithdai ar y chwith.

Ymwadiad – Mae Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir ar y gwe-dudalennau hyn yn gywir. Ni ellir ystyried y manylion a roddir fel cynnig na rhan o gynnig. Dylai darpar denantiaid gadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn fanwl gywir.

Mwy o wybodaeth