Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ystad Ddiwydiannol Endeavour Close

Mae'r ystâd hon ar Barc Ynni llewyrchus Baglan, ger Ffordd Ddosbarthu Port Talbot a choridor yr M4 gyda chysyll7adau i'r gorllewin a'r dwyrain.

Mae'r ystâd yn cynnwys unedau unigol tua 500tr. sgwâr a 3,000tr. sgwâr gyda swyddfa, cyfleusterau toiledau a drysau rholio ar gyfer pob uned.

Lleoliad

Ystad ddiwydiannol Endeavour Close, Port Talbot, SA12 7PT

O G42 yr M4, ewch ar yr A48 gan ddilyn arwyddion Llansawel. Ar y cylchdro, ewch ar y 3edd allanfa i'r A48, gydag arwydd Port Talbot. Ar y cylchdro nesaf, ewch ar y 4edd allanfa ar hyd y B4286, Seaway Parade a dilyn arwyddion Aberafan. Ar y cylchdro nesaf, ewch ar yr 2il allanfa gan barhau ar hyd Seaway Parade. Ar y cylchdro nesaf, ewch ar yr 2il allanfa ar 
hyd Seaway Parade. Ar y cylchdro nesaf, ewch ar y 3edd allanfa, a'r allanfa nesaf yw Endeavour Close. Mae'r ystâd ddiwydiannol ar waelod y ffordd y tu ôl i Ganolfan Busnes Ieuenctid Sandfields.

Ymwadiad – Mae Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir ar y gwe-dudalennau hyn yn gywir. Ni ellir ystyried y manylion a roddir fel cynnig na rhan o gynnig. Dylai darpar denantiaid gadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn fanwl gywir.

Mwy o wybodaeth