Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Parc Busnes y Creunant

Mae'r parc busnes hwn yng Nghwm Nedd, i'r gogledd o bentref y Creunant, ar yr A4109, gyda chysylltiadau trafnidiaeth da â Blaendulais a Chastell-nedd.

Mae'r ystâd yn cynnwys unedau unigol tua 500tr. sgwâr a 1,100tr. sgwâr gyda swyddfeydd, cyfleusterau toiledau a drysau rholio ar gyfer pob uned.

Wrth fynedfa'r ystâd, mae canolfan fusnes sy'n cynnig cyfleusterau cynadledda, llungopïo/ffacs a chaffi.

Lleoliad

Parc Busnes y Creunant, Castell-nedd, SA10 8PX

O G43 yr M4, dilynwch arwydd yr A465 i Gastell-nedd, Merthyr Tudful, gan adael yr A465 ac ymuno â'r A4109 i Flaendulais, gan fynd heibio i Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed i'r Creunant. Mae'r parc busnes ar y chwith.

Ymwadiad – Mae Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir ar y gwe-dudalennau hyn yn gywir. Ni ellir ystyried y manylion a roddir fel cynnig na rhan o gynnig. Dylai darpar denantiaid gadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn fanwl gywir.

Mwy o wybodaeth