Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Parc Busnes Cwm Tawe

Mae'r parc busnes hwn yng Nghwm Tawe i'r gogledd o brif ardal siopa Pontardawe ac mewn ardal sy'n boblogaidd ar gyfer adeiladau diwydiannol.

Mae'r A4067 a'r A474 gerllaw a chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol â Rhydaman, Abertawe, coridor yr M4 ac Ystradgynlais.

Mae pob uned yn 1,000tr.sgwâr fwy neu lai, gyda swyddfa, cyfleusterau toiledau a drysau rholio.

Lleoliad

Parc Busnes Cwm Tawe, Pontardawe, Abertawe, SA8 4EZ

O G45 yr M4, dilynwch yr A4067, a dilyn arwydd Pontardawe. Ar y cylchdro nesaf, ewch yn syth ymlaen i Bontardawe. Ar y cylchdro nesaf, cymerwch yr 2il allanfa i mewn i Bontardawe. Ar y cylchdro nesaf, cymerwch y 3edd allanfa gan fynd i mewn i Ystâd Ddiwydiannol Alloy. Cymerwch y tro cyntaf i'r chwith i Deras Tawe, a'r nesaf ar y dde. Mae'r parc busnes ar y dde.

Ymwadiad – Mae Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir ar y gwe-dudalennau hyn yn gywir. Ni ellir ystyried y manylion a roddir fel cynnig na rhan o gynnig. Dylai darpar denantiaid gadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn fanwl gywir.

Mwy o wybodaeth