Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gweithdai Pentref Glyncorrwg

Mae'r gweithdai hyn i'r de o bentref Glyncorrwg ym Mharc Coedwig Afan ger canolfan boblogaidd y Pyllau a Beicio Mynydd.

Ceir amrywiaeth o unedau diwydiannol a swyddfeydd o feintiau gwahanol dan yr unto gyda choridorau gwasanaeth sy'n gwasanaethu pob un o'r unedau.

Mae cyfleusterau toiledau cymunedol a digon o le i barcio ar gyfer cwsmeriaid a gweithwyr. Sylwer nad oes gan bob uned ar yr ystâd hon ddrysau rholio.

Lleoliad

Gweithdai Pentref Glyncorrwg, Port Talbot, SA13 3EA

O'r M4, ewch ar G40 gan ymuno â'r A4107 a pharhau yn eich blaen heibio i Gynonville, Dyffryn etc. Unwaith i chi gyrraedd y Cymer, trowch i'r dde i Lyncorrwg, a chyn mynd i mewn i
Lyncorrwg, dilynwch yr arwyddion i ganolfan y Pyllau a Beicio Mynydd ac mae'r gweithdai ar y chwith.

Ymwadiad – Mae Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir ar y gwe-dudalennau hyn yn gywir. Ni ellir ystyried y manylion a roddir fel cynnig na rhan o gynnig. Dylai darpar denantiaid gadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn fanwl gywir.

Mwy o wybodaeth