Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ystad Diwydiannol Cwmgors

Mae'r gweithdai ar goridor yr A474 i Rydaman. Ceir amrywiaeth o unedau diwydiannol a swyddfeydd o feintiau gwahanol dan yr unto gyda choridorau gwasanaeth sy'n gwasanaethu pob un o'r unedau.

Mae cyfleusterau toiledau cymunedol a digon o le i barcio ar gyfer cwsmeriaid a gweithwyr. Sylwer bod TAW yn berthnasol i'r holl daliadau ar gyfer yr ystâd hon.

Lleoliad

Gweithdai Pentref Cwm-gors, Cwm-gors, SA18 1PT

O G45 yr M4, dilynwch yr A4067 a'r arwydd i Bontardawe. Ar y cylchdro nesaf, ewch yn eich blaen i Bontardawe. Ar y cylchdro nesaf, cymerwch yr 2il allanfa i mewn i Bontardawe. Ar y cylchdro nesaf, cymerwch yr 2il allanfa i'r A474, ac ar y cylchdro nesaf, yr 2il allanfa i Heol Abertawe. Wrth y goleuadau traffig, trowch i'r chwith a dilyn yr A474 i Rydaman. Wrth ddod i Gwm-gors, ewch yn eich blan gan ddilyn yr arwyddion am y Gweithdai ar y chwith.

Ymwadiad – Mae Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir ar y gwe-dudalennau hyn yn gywir. Ni ellir ystyried y manylion a roddir fel cynnig na rhan o gynnig. Dylai darpar denantiaid gadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn fanwl gywir.

Mwy o wybodaeth