Prisiau metroleg
Mae Safonau Masnach yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gwirio metroleg, fel y nodir yn y ddewislen ar y chwith. Atodir rhestr o ffïoedd a thaliadau a godir am brofi cyfarpar pwyso neu fesur penodol.
Pwyso a Mesur Cyhoeddus
Cysylltwch â'r adran am fwy o gyngor trwy ffonio 01639 686868 neu tsd@npt.gov.uk
Ffïoedd cyffredinol
Pan fydd swyddog Safonau Masnach yn ymweld ag unrhyw eiddo er mwyn cyflawni unrhyw un o'r swyddogaethau neu'r gweithgareddau a restrir isod, gellir codi isafswm tâl fesul ymweliad swyddog £90.34. Y tu allan i oriau, mae tâl ychwanegol sy'n 50% o'r ffi/gyfradd awr safonol.
- Am unrhyw waith na thelir amdano gan y ffïoedd hyn, neu sy'n amrywio'n sylweddol neu'n cael ei wneud o dan amgylchiadau eithriadol, gellir cyfrifo tâl priodol gan ddefnyddio'r gyfradd awr.
- Gellir codi tâl ychwanegol sy'n 50% o'r ffi safonol neu'r gyfradd awr safonol fesul swyddog yr awr ar ymweliadau a wneir yn rhannol neu'n hollol y tu allan i oriau swyddfa arferol.
- Mae'r arweiniad yn ymwneud â chost profi eitemau unigol. Ni ddylai awdurdodau deimlo na allant amrywio'r ffi a ddyfynnir mewn amgylchiadau lleol penodol. Er enghraifft, gallai fod yn briodol gostwng ffïoedd dan yr amgylchiadau canlynol:
- Pan fo mwy nag un eitem yn cael ei chyflwyno ar un adeg ac yn benodol pan fo'n ymwneud â symiau mawr;
- Pan ddarperir cyfleusterau, cyfarpar neu gymorth gan y cyflwynwr trwy drefniant ymlaen llaw
- Pan nad oes unrhyw amser teithio swyddog i'w ystyried.
- Yn sgîl trafodaethau blaenorol ag Adran Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi, penderfynwyd NA ddylid ychwanegu TAW at ffïoedd, ar wahân i'r rhai a godir at ddibenion Adran 74 Deddf Pwysau a Mesurau 1985. Mae hyn oherwydd bod gwaith awdurdodau lleol yn cael ei ystyried yn weithgaredd nad yw'n ymwneud â busnes. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa wedi newid erbyn hyn. Lle bo'n berthnasol, caiff TAW ei chynnwys. Gweler Hysbysiad Tollau Tramor a Chartref 749 – Awdurdodau a Chyrff Tebyg (Ebrill 2002) am fwy o fanylion. Nid yw'r prisiau a restrir isod yn cynnwys TAW.
Cyfarpar pwyso a mesur arbennig
Gall awdurdod lleol gyfrifo'r taliadau ar gyfer archwilio, profi, ardystio, stampio, awdurdodi neu adrodd ar gyfarpar pwyso a mesur arbennig yn unigol ar sail ffigur:
Mae'r fath gyfarpar, yn benodol y rhai sydd wedi'u heithrio o'r taliadau fel y nodir dan y penawdau Pwysau a Tystysgrif Gwallau, yn cynnwys:
- Peiriannau pwyso awtomatig neu gyfansymio;
- Cyfarpar wedi'i ddylunio i bwyso llwythi wrth symud;
- Cyfarpar mesur tanwydd swmpus sy'n cael ei brofi ar ôl digwyddiad Rheoliad 65 neu 66;
- Cyfarpar pwyso neu fesur wedi'i brofi trwy samplu ystadegol;
- Pennu cromliniau graddnodi o dempledi;
- Templedi wedi'u graddnodi mewn milimetrau;
- Gwasanaethau profi neu eraill yn unol â rhwymedigaeth gymunedol ac eithrio gwirio cychwynnol neu rannol CE.
Tystysgrif gwallau
Am gyflwyno tystysgrif sy'n cynnwys canlyniadau'r gwallau a ganfuwyd wrth brofi. (Cyflwynir y dystysgrif ar gais y cyflwynwr; codir ffi pan nad oes ffi arall yn daladwy.)
Cyfarpar mesur tanwydd tanceri ffordd
(Gofynion CEE) 1988
Systemau mesur mesuryddion (> 100l) | Ffi |
---|---|
Mesurydd â phibell wlyb a dau hylif profi |
£354.80 |
Mesurydd â phibell wlyb a thri hylif profi |
£413.93 |
Mesurydd â phibell sych a dau hylif profi |
£394.17 |
Mesurydd â phibell sych a thri hylif profi | £453.54 |
Mesurydd â phibell wlyb/sych a dau hylif profi | £551.89 |
Mesurydd â phibell wlyb/sych a thri hylif profi | £589.97 |
Offer mesur ar gyfer tanwydd hylif ac ireidiau
Math o profion | Ffi |
---|---|
Math o gynhwysydd (heb ei is-rannu) | £101.34 |
Y ffroenell gyntaf a brofir, fesul safle |
£165.29 |
Pob ffroenell ychwanegol a brofir |
£111.70 |
Profi cyfarpar trydanol amgantol ar ymweliad ar wahân (fesul safle) |
£111.51 |
Profi derbynnydd cardiau credyd |
£111.51 |
Offer mesur ar gyfer gwirodydd meddwol
Dim mwy na 150 ml - £24.19 + TAW
Arall - £27.95 each + TAW
Offerynnau pwyso
NAWI
Pwysau | Ffi |
---|---|
Heb fod dros 1 dunnell |
£146.74 + TAW |
Dros 1 tunnel i 10 tunnel; |
£227.05 + TAW |
Dros 10 tunnel |
£497.04 + TAW |
Heb fod yn CE
(Gofynion CEE) Rheoliadau 1988
Pwysau | Ffi |
---|---|
Heb fod dros 1 dunnell |
£88.14 |
Dros 1 tunnel i 10 tunnel; (2240 pwys-22400 pwys) |
£142.78 |
Dros 10 tunnel |
£298.18 |
Pont bywso cyhoeddus ardystiad
- £111.51ph
- Dim TAW
- Isafswm tâl hanner awr
Nodiadau
Wrth brofi offerynnau gan cynnwys arddangosfeydd anghysbell neu cyfleusterau argraffu, a ble mae cwblhau'r prawf yn gofyn am ail berson neu ail gyfres o brofion gan yr un person, gall ffi ychwanegol cael ei godi ar sail y ffi sylfaenol a roddwyd uchod yn ogystal â 50% gordal.
Wrth gyflenwi offer arbenigol (gan gynnwys ond heb ei gyfyngu I pont bwyso uned brawf, fan a phrofi pwysau, ac ati) Gall ffi ychwanegol cael ei godi bob awr, bob dydd neu bob apwyntiad yn ôl yr amgylchiadau.
Mesurau
Mesur | Ffi | Ychwanegir TAW |
---|---|---|
Mesurau llinol nad ydynt yn fwy na 3m fesul graddfa |
£13.89 | Oes - oni bai y daw o dan Reoliadau Offer Mesur (Gofynion CEE) 1988 |
Mesurau cyfeintiau heb raniadau (dim mwy nag un litr) |
£10.97 | Oes - oni bai y daw o dan Reoliadau Offer Mesur (Gofynion CEE) 1988 |
Mesurau balast ciwbig | £245.54 | Oes - oni bai y daw o dan Reoliadau Offer Mesur (Gofynion CEE) 1988 |
Mesurau cyfeintiau hylif ar gyfer gwneud a gwirio pecynnau cyfaint cyfartalog |
£38.82 | + TAW |
Templedi fesul graddfa - yr eitem gyntaf | £67.48 | + TAW |
Templedi yr ail eitem ac eitemau ar ôl hynny | £25.53 | + TAW |
Pwysau
Cyfradd bob awr ar gyfer arolygydd o bwysau a mesurau awr gyntaf - £111.51 + TAW.
£61.95 wedi hynny.
Cyfarwyddeb offer mesur
Er mwyn adlewyrchu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag archwilio, profi a dogfennu a chynnal statws corff nodedig y COM, dylid codi taliadau ychwanegol ar ddosbarthiadau penodol o offer sy'n cael eu cynnwys yn y COM, fel a ganlyn:
- Cyfradd bob awr - £93.86 + TAW
Sylwer: Bydd ffïoedd yn cynyddu ar gyfer asesiad cydymffurfio â'r COM cychwynnol, ond nid ar gyfer ailwirio ar ôl hynny.
Cyfarwyddeb Offer Mesur | Ffi 2022/23 | TAW? |
---|---|---|
Cyfansymwyr toredig awtomatig, pontydd pwyso rheilffyrdd awtomatig, peiriannau pwyso awtomatig, offer llenwi grafimetrig a chludfeltiau pwyso awtomatig. | Dim tâl ychwanegol | Oes |
Mesuryddion dŵr oer | Dim tâl ychwanegol | Oes |
Offer mesur ar gyfer tanwydd hylif ac ireidiau | Tâl ychwanegol o 10% | Oes |
Offer mesur ar gyfer tanwydd hylif a ddosberthir o danceri ffordd | Tâl ychwanegol o 10% | Oes |
Mesurau gweini cyfeintiau | Tâl ychwanegol o 25% | Oes |
Mesurau hyd deunydd | Tâl ychwanegol o 25% | Oes |
Talu prisiau metroleg
Er mwyn adlewyrchu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag archwilio, profi a dogfennu a chynnal statws corff nodedig y COM, dylid codi taliadau ychwanegol ar ddosbarthiadau penodol o offer sy'n cael eu cynnwys yn y COM, fel a ganlyn:
Cyfradd bob awr - £93.86 + TAW
Sylwer: Bydd ffïoedd yn cynyddu ar gyfer asesiad cydymffurfio â'r COM cychwynnol, ond nid ar gyfer ailwirio ar ôl hynny.
Cyfarwyddeb Offer Mesur | Ffi (ychwanegir TAW) |
---|---|
Cyfansymwyr toredig awtomatig, pontydd pwyso rheilffyrdd awtomatig, peiriannau pwyso awtomatig, offer llenwi grafimetrig a chludfeltiau pwyso awtomatig. | Dim tâl ychwanegol |
Mesuryddion dŵr oer | Dim tâl ychwanegol |
Offer mesur ar gyfer tanwydd hylif ac ireidiau | Tâl ychwanegol o 10% |
Offer mesur ar gyfer tanwydd hylif a ddosberthir o danceri ffordd | Tâl ychwanegol o 10% |
Mesurau gweini cyfeintiau | Tâl ychwanegol o 25% |
Mesurau hyd deunydd | Tâl ychwanegol o 25% |