Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn 11 prosiect mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe – sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Yn ystod y 15 mlynedd nesaf, bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu bron i 10,000 o swyddi newydd o safon.

Mae prosiectau'r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol sef Cyflymu'r Economi, Gwyddor Bywyd a Llesiant, Ynni, a Gweithgynhyrchu Clyfar.  Caiff pob prosiect ei ategu gan seilwaith digidol o'r radd flaenaf a menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn rhoi llwybr i bobl leol gael y swyddi a gaiff eu creu.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid o'r sector preifat.

Mae cyfanswm y pecyn buddsoddi yn cynnwys cyllid o £241 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, £396 miliwn o gyllid cyhoeddus arall a £637 miliwn gan y sector preifat.

Prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae nifer o brosiectau Bargen Ddinesig yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae’r rhain yn cynnwys:

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

Rhaglen ranbarthol 5 mlynedd o hyd yw prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe a arweinir gan CBS Castell-nedd Port Talbot ar ran awdurdodau lleol y Fargen Ddinesig, a fydd yn ceisio cyflwyno cartrefi doeth carbon isel ac ynni effeithlon trwy ymagwedd gydlynol ar draws y rhanbarth. Yn y pendraw bydd yn arwain at leihau tlodi tanwydd a'i effaith ar iechyd a lles, cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau carbon a lliniaru'r prinder tai er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am dai.

Bydd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn targedu prosiectau adeiladu newydd ac ôl-osod adeiladau presennol. Y nod yw darparu prawf cysyniadol yn y sector preifat ar raddfa gymharol fach gyda'r bwriad o gynyddu gweithgarwch ar draws y rhanbarth a'r sectorau. Mae'r prosiect braenaru hwn wedi ei leoli ar hyn o bryd ar safle hen gartref gofal Hafod yng Nghastell-nedd - dyma brosiect ar y cyd rhwng CBS Castell-nedd Port Talbot, Pobl a Phrifysgol Abertawe - SPECIFIC.

Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen:

  • Rhaglen o fuddsoddiad mewn adeiladau newydd
  • Rhaglen o fuddsoddiad mewn ôl-osod
  • Prosiect datblygu cadwyni cyflenwi (gan gynnwys cronfa buddsoddi rhanbarthol o ran cadwyni cyflenwi Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer)
  • Monitro a gwerthuso

Disgwylir i'r rhaglen gyflawni’r targedau canlynol:

  • Diogelu o leiaf 10,300 o eiddo ar gyfer y dyfodol o fewn 5 mlynedd (ôl-osod 7,000 ohonynt ac adeiladu 3,300 o’r newydd)
  • Gwella iechyd a lles a lleihau'r baich ar feysydd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol
  • Arddangos dichonoldeb y cysyniad o Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
  • Cychwyn cadwyn gyflenwi ranbarthol gynaliadwy

Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe

Bydd Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe ym Mharc Ynni Baglan a bydd yn adeilad hybrid tua 2,500 m² sy’n darparu amrywiaeth o fannau swyddfa hyblyg ac o safon i gefnogi cwmnïau cychwynnol a thwf busnesau brodorol gyda ffocws ar y sectorau arloesedd ac ymchwilio a datblygu.

Bydd dyluniad y Ganolfan Dechnoleg yn cynnwys deunyddiau adeiladu i'w sefydlu fel 'adeilad fel gorsaf bŵer' ac arddangos sut gellir cynnwys y dechnoleg hon mewn adeilad diwydiannol.

Disgwylir i'r Ganolfan Dechnoleg gyrraedd y targedau canlynol:

  • Safle wedi'i greu - 2,500 m²
  • Darparu ar gyfer swyddi - 210
  • Darparu ar gyfer mentrau - 35

Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf

Bydd prosiect Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf Bargen Ddinesig Bae Abertawe (CENGS) yn sefydlu cymdeithas nid er elw a fydd yn darparu gallu dadansoddi data i droi arloesedd data o safon yn systemau a syniadau masnachol gan sefydlu Cymru a'r DU fel arweinwyr.

Amcan craidd CENGS yw trosglwyddo syniadau i greu swyddi a chyfoeth yn y sector preifat. Bydd CENGS yn darparu'r llwyfan a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i newid syniadau arloesol yn gynigion masnachol. Bydd arloesedd, syniadau a chyfleoedd yn cael eu datblygu o ffynonellau lleol megis sefydliadau ymchwil, prifysgolion a busnesau.

Bydd staff sefydliad y CENGS yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr masnachol a thechnegol a'u ffocws fydd ar wireddu a masnacheiddio syniadau arloesol wedi'u creu gan eraill. Bydd y cyfle i sefydlu CENGS ar gael ar y farchnad agored gystadleuol.

Disgwylir i brosiect y CENGS gyrraedd y targedau canlynol:

  • Nifer y mentrau sy’n cael eu lansio - 50 (erbyn y bumed flwyddyn)
  • Crynswth y swyddi sy’n cael eu creu - 500 erbyn diwedd y ddegfed flwyddyn

Gwyddoniaeth Dur

Bydd Prifysgol Abertawe'n sefydlu Canolfan Arloesi Dur Cenedlaethol (NSIC) a fydd yn gyfleuster mynediad agored ar gyfer y gadwyn gyflenwi dur a metelau a fydd yn darparu amrywiaeth cyflawn o swyddogaethau ymchwil. 

Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar ddarparu ymchwilio a datblygu masnachol i wynebu heriau'r presennol a'r dyfodol o gynnal gwaith dur yn y rhanbarth a'r DU. Bydd yn gweithio gyda diwydiant i leihau effaith carbon a rhoi'r rhanbarth ar flaen y gad o ran cynhyrchu carbon isel. Hefyd bydd yn cefnogi datblygiad gwerth a chyfleoedd cadwyn gyflenwi mewn cynhyrchion a phrosesau newydd.

Ffatri'r Dyfodol

Bydd Prifysgol Abertawe'n datblygu Canolfan Ragoriaeth ranbarthol i ddatblygu, arddangos a chyflymu’r defnydd o dechnolegau gweithgynhyrchu clyfar ac arloesol.

Bydd y cyfleuster newydd ger Campws y Bae a'i nod yw creu swyddi newydd mewn gweithgynhyrchu blaengar, helpu busnesau lleol i wneud yn fawr o ddatblygiadau mewn technoleg ddigidol, creu prosesau cyflymach, mwy hyblyg a mwy effeithlon, cynyddu gallu’r rhanbarth a chwmnïau i gystadlu a chefnogi busnesau gweithgynhyrchu lleol i leihau'r bwlch cynhyrchedd.

Am fwy o wybodaeth ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe.