Y Gronfa Ffyniant Bro
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau dros £17.7 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn rhaglen Denu Ymwelwyr I Goridor Treftadaeth Bro Nedd yn y fwrdeistref sirol.
Wedi'i gyhoeddi gan y Canghellor yng Nghyllideb yr Hydref 2021, mae'r Gronfa Ffyniant Bro gwerth £4.8 biliwn yn buddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.
Atyniad Ymwelwyr Coridor Treftadaeth Bro Nedd
Mae Atyniad Ymwelwyr Coridor Treftadaeth Bro Nedd yn becyn cais sydd wedi'i leoli ym Mro Castell-nedd yn Ne-orllewin Cymru a fydd yn cyflwyno dau brosiect trawsnewidiol sy'n rhan o 'Brif Gynllun Coridor Treftadaeth Cwm Nedd’.
Mae’r uwch gynllun yn amlinellu cyfleoedd buddsoddi allweddol i sefydlu Cwm Nedd fel cyrchfan ymwelwyr a arweinir gan dreftadaeth a’r amgylchedd naturiol. Bydd cyllid y gronfa yn gatalydd ar gyfer cyflawni’r prif gynllun gan arwain at dwf yn economi’r ymwelwyr yng Nghwm Nedd. Y ddau brosiect rhyng-gysylltiedig yw:
Cynllun seilwaith ymwelwyr Gwlad y Sgydau, Pontneddfechan
Mae £6.9 miliwn wedi’i sicrhau ar gyfer cynllun seilwaith ymwelwyr Gwlad y Sgydau, Pontneddfechan, sydd wedi’i leoli i’r gogledd o’r cwm, a fydd yn mynd i’r afael â’r pwysau sylweddol a brofir gan y gymuned letyol drwy greu gwell mynediad at wasanaethau yn ogystal â chefnogi economi’r ymwelwyr drwy ddarparu seilwaith ymwelwyr strategol, gan gynnwys:
- adeilad porth canolbwynt ymwelwyr yn ymgorffori; toiledau cyhoeddus, siop fferm / pentref er budd y gymuned leol ac ymwelwyr
- llety i ymwelwyr sy'n addas i deuluoedd
- parcio parhaol i gynnwys parcio ffurfiol a gorlif, parcio bysus a bysiau mini a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan
- gwelliannau parth cyhoeddus/porth ymwelwyr i wella'r ymdeimlad o gyrraedd y pentref i gynnwys; Sgwâr y pentref sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau bach fel marchnadoedd dros dro, seddi awyr agored a llwybrau diogel i gerddwyr gyda llwyfan gwylio.
- dehongli ac arwyddion.
Seilwaith Ymwelwyr a Threftadaeth Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Sicrhawyd £10.8 miliwn ar gyfer Seilwaith Ymwelwyr a Threftadaeth Parc Gwledig Ystâd y Gnoll i’r De o’r cwm ger canol tref Castell-nedd yn gwella ac yn adfer y nodweddion treftadaeth fel agwedd allweddol o brofiad yr ymwelydd ac yn datblygu llety i ymwelwyr ar y safle.
Bydd y prosiect yn cefnogi twf i economi’r ymwelwyr, yn gwella apêl y parc i ddenu ymwelwyr ychwanegol ac yn dod â threftadaeth y parc i flaen y gad ym mhrofiad yr ymwelydd. Mae’r prosiect hwn yn rhan o ddull graddol o ddatblygu Prif Gynllun Ystâd y Gnoll, bydd y gronfa yn buddsoddi yn y canlynol:
- moderneiddio'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi presennol
- amrywio'r arlwy chwarae
- gwarchod ac agor mynediad i nodweddion treftadaeth bwysig gan gynnwys seleri a rhaeadrau Tŷ'r Gnoll
- gwell dehongliad o'r parc gwledig
- gwella bioamrywiaeth a chadwraeth natur
- gwell cysylltiadau ffisegol gyda safle Coed Cadw cyfagos i ddyblu'r tir sydd ar gael ar gyfer hamdden awyr agored yn y lleoliad hwn
- gwell darpariaeth parcio ceir (gan gynnwys cyfleusterau gwefru cerbydau trydan)
Mae’r pecyn cais yn elfen allweddol wrth ddatblygu ‘llinyn o berlau’ o gyrchfannau allweddol ym Mro Castell-nedd sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth a’r awyr agored gwych sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd a gefnogir gan ddull cydweithredol / partneriaeth gyda'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector gan greu balchder yn ei le a chynyddu cyfleoedd bywyd.
Datganiad i'r wasg
Cwm Nedd i ddod yn atyniad treftadaeth o bwys ar ôl llwyddiant gwerth £17.7m o Gronfa Codi’r Gwastad.