Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Prosiectau a Ariennir gan Ewrop (2014 - 2020)

Hwb Trafnidiaeth Integredig Port Talbot

Mae’r Hwb Trafnidiaeth newydd a gwblhawyd ym mis Mawrth 2018 yn ganolfan i brif gysylltiadau trafnidiaeth gan gynnwys gorsaf Parcffordd Port Talbot, gorsaf fysus newydd, cyfleusterau beicio, safle tacsis a chilfachau casglu a gollwng mewn cynteddfa i gerddwyr yn bennaf, gan ddarparu mynediad mwy hwylus i bob ardal cyflogaeth a phreswyl yn y dref ac o'i chwmpas.

Cynlluniwyd yr Hwb Trafnidiaeth i ategu gwaith Network Rail o ailddatblygu Gorsaf Drenau Parcffordd Port Talbot (a ariannwyd yn rhannol drwy gyllid yr UE) ac mae'n rhan o rhaglen adfywio ehangach y cyngor.

Ariannwyd y cynllun gan y Gronfa Trafnidiaeth Leol, cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

Mae'r Hwb Trafnidiaeth yn ddarpariaeth ychwanegol ac ategol i Orsaf Fysus Port Talbot, lle bydd gwasanaethau arferol yn parhau.

""

Glannau'r Harbwr

Bydd adfywio safle cyflogaeth strategol Glannau'r Harbwr yn gatalydd i ailddatblygu hen ardal ddociau’r dref. Diben y cynllun yw gwella'r ardal er mwyn creu hwb busnes ffyniannus a denu buddsoddiad preifat ychwanegol i helpu i ysgogi twf mewn cyflogaeth a chyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.

Unwaith bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y safle’n darparu tir ar gyfer defnyddwyr diwydiannol bach a defnyddwyr swyddfa gan fanteisio ar yr agosrwydd at ganol y ddinas a’r cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog.

Mae'r prosiect yn cynnwys: adfer yr hen dir llwyd; adeiladu ffyrdd mynediad; gwella priffyrdd presennol i safon fabwysiadwy; a mesurau i liniaru llifogydd. Bydd hyn yn galluogi datblygiad yn y dyfodol ac yn gwneud y safle'n ddichonadwy ar gyfer datblygu ymhellach. Bydd hefyd yn darparu mannau parcio ychwanegol i gefnogi datblygiad y safleoedd.

Mae'r cynllun hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan gyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

""

Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe

Bydd Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe ym Mharc Ynni Baglan yn adeilad hybrid sy’n darparu amrywiaeth o fannau swyddfa hyblyg i gefnogi cwmnïau cychwynnol a thwf busnesau brodorol gyda ffocws ar y sectorau arloesedd ac ymchwilio a datblygu ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain. Bydd dyluniad y Ganolfan Dechnoleg yn cynnwys deunyddiau adeiladu i'w sefydlu fel 'adeilad fel gorsaf bŵer'.

Bydd yr adeilad ym Mharc Ynni Baglan, ger Port Talbot, ar goridor yr M4, gerllaw Canolfan Arloesedd Bae Baglan, sydd eisoes yn llawn. Mae gan y lleoliad gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a bydd yn cefnogi ac yn hybu twf sectorau strategol yn y rhanbarth (gan gynnwys busnesau newydd a busnesau brodorol), yn arbennig y sector ynni sy'n tyfu, gan arwain at greu swyddi a chynnydd mewn gwerth ychwanegol gros yn y rhanbarth.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

""

Ailddatblygu’r Plaza

Nod ailddatblygu'r Plaza yw ailddefnyddio’r hen sinema adfeiliedig at ddibenion economaidd gan ddarparu cyfleuster a fydd yn creu swyddi, yn annog twf economaidd ac yn cyfrannu at yr agenda trechu tlodi.

Mae'r adeilad yng nghanol tref Port Talbot, gerllaw cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog gorsaf Parcffordd sydd newydd ei hadnewyddu a'r Hwb Trafnidiaeth Integredig newydd.

Bydd yn darparu cyfleusterau meithrin busnesau hyblyg; ystafelloedd hyfforddi/swyddfa/cyfarfod; ardaloedd amlbwrpas ar gyfer defnydd cymunedol; caffi/cyfleuster cegin hyfforddi; a man hyblyg ar gyfer defnydd cymunedol, e.e. mentrau cymdeithasol.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2020.

""

Hen Lys Ynadon, Port Talbot

Ar hyn o bryd, mae adeilad yr hen Lys Ynadon yn wag ac yn adeilad rhestredig amlwg yng nghanol tref Port Talbot. Mae'r adeilad o ddiddordeb hanesyddol arbennig oherwydd dyma brif swyddfeydd cwmni dur gwreiddiol Port Talbot. Fe’i hadeiladwyd tua 1900, cyn ei drawsnewid yn Llys Ynadon yn y 1980au.

Mae'r adeilad wedi ei leoli o fewn Parth Menter Port Talbot, wrth un o’r prif byrth i Bort Talbot ar hyd Ffordd yr Harbwr, a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae ef gerllaw safle cyflogaeth strategol Glannau'r Harbwr, gorsaf drenau Parcffordd sydd newydd ei hailddatblygu a'r Hwb Trafnidiaeth Integredig.

Nod y gwaith ailddatblygu yw darparu swyddfeydd hyblyg dros ddau lawr, ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi, gan ddod â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn ei sgîl, yn ogystal â denu buddsoddiad economaidd ychwanegol i'r ardal.

Mae'r cynllun hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Wnaeth y prosiect gorffen yn mis Medi 2019.

""

8 Stryd y Gwynt, Castell-nedd

Caiff hen swyddfa'r cofrestrydd yng nghanol tref Castell-nedd ei hadnewyddu i ddarparu swyddfeydd hanfodol a fydd yn gartref i fusnesau bach a chanolig newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a busnes lleol, yn ogystal â denu buddsoddiad economaidd ychwanegol i'r rhanbarth.

Mae'r adeilad amlwg a rhestredig wedi bod yn wag am 13 o flynyddoedd a bydd yr adnewyddiad yn bodloni gofynion CADW gan atgyweirio nodweddion pensaernïol lle bynnag y bo modd.

Bydd y swyddfeydd newydd eu hadnewyddu yn darparu ar gyfer oddeutu 47 o swyddi dros dri llawr.

Bwriedir i'r gwaith adnewyddu ddechrau yn 2020.

""

Rydyn ni eisiau’ch barn chi!

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn ag unrhyw brosiect a nodir yma, rhowch wybod i ni. Croesawn eich adborth a cheisiwn ein gorau i gynnwys unrhyw awgrymiadau lle bo hynny'n rhesymol ac yn ymarferol.

Cyflwynwch eich sylwadau'n ysgrifenedig drwy’r post i’r cyfeiriad canlynol: Y Tîm Ariannu Ewropeaidd a Strategol, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Llansawel SA11 2GG.

neu drwy e-bostio: europeanteam@npt.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a byddwn yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg a Saesneg i’r un safonau ac amserlenni.