Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Canolfan Dechnoleg y Bae

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnig adeilad 25,000 troedfedd sgwâr o’r radd flaenaf a chanddo le i swyddfeydd modern a labordy, yn un o Barciau Busnes mwyaf blaenllaw Cymru yng nghanol de Cymru.

Bydd unedau o feintiau gwahanol yn y ganolfan ar gyfer cwmnïau newydd, busnesau brodorol a mewnfuddsoddwyr sy’n chwilio am leoliad i sefydlu a thyfu eu gweithrediadau. Bydd y datblygiad hwn yn cefnogi arloesedd, arallgyfeirio a thwf yr economi ranbarthol.

Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar arloesedd mewn ystod o sectorau diwydiant gan gynnwys ynni, meddalwedd, gwyddorau bywyd a gweithgareddau busnes blaengar tebyg.

Y nod yw creu amgylchedd lle gall busnesau ffynnu a lle gellir masnacholi cynnyrch i gefnogi twf gweithgareddau busnes rhanbarthol.

Bydd y dyluniad blaengar a’r defnydd arloesol o ddeunyddiau’n darparu adeilad cynaliadwy gydag ynni sydd dros ben yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu hydrogen yn y safle. Mae’r fenter hon wedi’ ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop,
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

I gofrestru'ch diddordeb ebostiwch business@npt.gov.uk