Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Prosiect Parc Coffa Talbot

Agorwyd Parc Coffa Talbot yn swyddogol ym 1925.

Wrth i'r canmlwyddiant agosáu, rydym yn creu prif gynllun i warchod ac adfywio'r Parc.

Y nod yw gwneud yn siŵr bod pobl nawr ac yn y dyfodol yn gallu parhau i ddefnyddio’r Parc ar gyfer eu:

  • iechyd
  • lles
  • mwynhad

Mae hyn yn her oherwydd mae'r Parc yn cael llawer o gariad ond ychydig o arian.

Mae cyllid ychwanegol yn dibynnu ar yr uwchgynllun. Mae angen inni wneud yn siŵr ei fod o fudd i’r gymuned leol. Dyna pam rydym angen eich help!

Diwrnod Agored

Bydd Diwrnod Agored yn yr hen Bafiliwn 15 Mehefin, 10yb - 6ypGalwch heibio a dywedwch wrthym beth yw eich barn neu llenwi ein holiadur.

Darganfyddwch am y prosiect

Dyddiadau a digwyddiadau pwysig

Mae'r parc yn lle i'r gymuned gyfan