Dogfen
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r System ADY: Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr
Beth yw Arfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn?
Mae'r system ADY newydd yng Nghymru yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol ac ysgol i sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn a rhiant y plentyn, neu'r person ifanc, wrth wraidd y broses benderfynu.
Mae'r ddyletswydd hon yn adlewyrchu ethos Arfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (ACU). Mae ystod o adnoddau i gefnogi'r defnydd o ymagweddau ACU ar gael ar wefannau'r Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru.
Sut rydym yn gwybod a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY?
Mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os oes ganddo:
- anhawster sylweddol fwy i ddysgu na'r mwyafrif o'r rhai eraill sydd o'r un oedran, neu
- anabledd sy'n ei atal rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddiant o'r fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer plant eraill o'r un oed;
AC mae'r math hwn o anhawster dysgu neu anabledd yn galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY).
Beth yw Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol?
Mae Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol, neu DDdY:
- ar gyfer plentyn 3 oed neu'n hŷn: yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i'r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran;
- ar gyfer plentyn dan dair oed: darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
Os oes gan blentyn neu berson ifanc ADY y mae angen DDdY ar ei gyfer, bydd ganddo Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd hyn yn dangos sut y caiff ei gefnogi a phwy fydd yn darparu'r gefnogaeth hon (darparwr DDdY).
Pwy sy'n cefnogi dysgwyr ag ADY?
Mae dyletswydd ar ysgolion a gynhelir yng Nghymru i wneud y canlynol:
- adnabod dysgwyr ag ADY yn yr ysgol; mae'n ddyletswydd ar ysgolion i benderfynu a oes gan ddysgwr ADY. Os penderfynir bod gan ddysgwr ADY, mae'n ofynnol i ysgolion gyhoeddi CDU a drafftio'r CDU o fewn 35 niwrnod ysgol
- cyflwyno’r CDU i fwyafrif y dysgwyr
- cynnwys a chefnogi plant unigol, eu teuluoedd a phobl ifanc i gymryd rhan mor llawn â phosib yn y broses benderfynu drwy'r defnydd o Arfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
- darparu gwybodaeth i ddysgwyr a rhieni/gofalwyr
- adolygu a chynnal mwyafrif y CDUau ar gyfer dysgwyr
- gweithio gydag asiantaethau allanol fel y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd
- cysylltu â'r Awdurdod Lleol mewn achosion lle mae'n anoddach penderfynu a oes gan ddysgwr ADY, neu pa DDdY sy'n ofynnol
Mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddyletswydd i:
- gefnogi disgyblion wrth adnabod dysgwyr ag ADY
- adolygu’r DDdY mewn ysgolion yn CNPT yn gyson
- penderfynu a oes gan blentyn ADY, a yw hyn wedi'i ddwyn i'w sylw, o fewn cyfnod 12 wythnos
- cynnal CDUau ar gyfer y dysgwyr hynny â'r anghenion mwyaf cymhleth neu ddifrifol; y rheini y mae'r ALl yn gyfrifol amdanynt; a'r rheini sydd wedi'u cofrestru'n ddeuol (mewn mwy nag un ysgol)
- gweithredu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau bod gwybodaeth/cyngor ar gael i ysgolion, dysgwyr a rhieni/gofalwyr
- gweithio gydag asiantaethau allanol h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
- ailystyried penderfyniadau a wneir gan yr ysgolion (o fewn 7 wythnos)
Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Bydd ysgol eich plentyn yn gallu darparu gwybodaeth ychwanegol i chi am ba gymorth ychwanegol sydd ar gael i'ch plentyn. Gall ysgolion gael cefnogaeth ychwanegol gan yr Awdurdod Lleol os oes angen, er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cael cefnogaeth dda a bod ei anghenion yn cael eu diwallu. Mae gwefannau ysgolion hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol.
Mae gan wefan CBSCNPT wybodaeth ychwanegol am systemau a chymorth ADY y mae'r Awdurdod Lleol yn gallu ei darparu. Gellir gweld hyn yn www.npt.gov.uk/1329. Gallwch hefyd ffonio 01639 763142, e-bostio inclusionservice@npt.gov.uk neu fynd i'n tudalen Facebook 'NPT Education Inclusion ‘.
Mae SNAP Cymru yn elusen genedlaethol sy'n ceisio hyrwyddo addysg pobl yng Nghymru, a chefnogi eu cynhwysiad. Maent yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth annibynnol, am ddim i helpu i gael yr addysg gywir ar gyfer dysgwyr ag ADY. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y wefan neu drwy ffonio 0808 801 0608.
Gweithdrefnau cwyno
Os ydych chi'n anhapus â'r ddarpariaeth sydd ar waith i gefnogi ADY eich plentyn, y cam cyntaf yw siarad â'r athro dosbarth, CADY ysgol a/neu'r Pennaeth. Os nad yw hyn yn bosib, neu os oes angen cyngor a chefnogaeth bellach arnoch ar ôl siarad â nhw, gallwch gysylltu â gwasanaeth Partneriaeth Rhiant Disgybl yr ALl neu SNAP Cymru. Byddant yn gwrando ar eich pryderon ac yn ceisio'ch cynorthwyo i ddatrys unrhyw faterion sydd gennych. Mae'r manylion cyswllt fel a ganlyn:
- Gwasanaeth Partneriaeth Rhiant Disgybl - 01639 763158
- ALNSS@npt.gov.uk
- SNAP Cymru - 0808 801 0608
- www.snapcymru.org
Fodd bynnag, os na ellir dod o hyd i ddatrysiad ac rydych am wneud cwyn ffurfiol, gweler y gwahanol weithdrefnau isod:
Cwyno i'r ysgol - Mae gan bob ysgol ei pholisi cwynion ei hun y bydd angen i chi ei ddilyn. Bydd hwn fel arfer ar eu gwefan, neu fel arall, gellir gofyn am gopi caled yn uniongyrchol o ysgol eich plentyn.
Awdurod Lleol - Os yw'ch cwyn yn ymwneud â gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol, gellir cyrchu'r Polisi a'r Weithdrefn Sylwadau, Canmoliaethau a Chwynion ar wefan CNPT.