Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cymeradwyo cynllun buddsoddi yn golygu hwb ariannol gwerth £132m ar gyfer y rhanbarth
    07 Rhagfyr 2022

    Bydd miloedd ar filoedd o breswylwyr a busnesau yn Ne-orllewin Cymru yn elwa o hwb ariannol gwerth £132m dros y tair blynedd nesaf.

  • Dymchwel ysgol gynradd y bu’n rhaid ei gadael: ‘yr unig ateb fforddiadwy’
    06 Rhagfyr 2022

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau i ddymchwel hen Ysgol Gynradd Godre’r-graig, y bu’n rhaid ei gadael oherwydd problemau tirlithriad, ar ôl clywed mai dyna’r unig ateb fforddiadwy oedd ar gael.

  • Cynghorwyr yn cymeradwyo rhaglen lanhau gwerth £4.2m ar gyfer trefi, cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot
    05 Rhagfyr 2022

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhaglen sy’n werth £4.2 miliwn i ‘lanhau a glasu’ trefi, cymoedd a phentrefi dros y deunaw mis nesaf.

  • Cynghorwyr yn cymeradwyo parcio rhad ac am ddim dros dymor yr ?yl yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe
    02 Rhagfyr 2022

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhoi Parcio Nadolig Rhad ac am Ddim i ganol trefi Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe o ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2022 tan ddydd Sul 1 Ionawr 2023.

  • Cymeradwyo dros hanner miliwn mewn Grantiau Trydydd Sector
    01 Rhagfyr 2022

    Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo grantiau sy’n werth dros hanner miliwn o bunnoedd i 37 ymgeisydd llwyddiannus fel rhan o’i gynllun cyllido Grantiau’r Trydydd Sector ar gyfer 2023/24.

  • Cynllun ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe i fynd yn ôl i ymgynghoriad cyhoeddus
    30 Tachwedd 2022

    Mae cynnig i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe ac adeiladu ysgol newydd sbon gwerth £22m i blant tair i un-ar-ddeg oed ym Mhontardawe yn eu lle yn mynd i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus unwaith eto.

  • Cyngor i gynyddu taliadau i ddarparwyr cartrefi gofal
    30 Tachwedd 2022

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu buddsoddi £667,000 yn ychwanegol, ar ben faint mae’n talu eisoes i ddarparwyr cartrefi gofal pobl h?n.

  • Cronfa £2m Cynllun Lliniaru Caledi Castell-nedd Port Talbot ar agor nawr
    29 Tachwedd 2022

    Mae’r gronfa o £2m ar gyfer Cynllun Lliniaru Caledi Castell-nedd Port Talbot, a sefydlwyd gyda’r nod o gefnogi’r preswylwyr lleol hynny sydd fwyaf mewn angen cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw, bellach ar agor.

  • Pwll Nofio Pontardawe – cau dros dro
    29 Tachwedd 2022

    Gwnaed penderfyniad ar y cyd rhwng Celtic Leisure a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gau Pwll Nofio Pontardawe dros dro, o ddydd Mercher, 30 Tachwedd, 2022.

  • Cyngor yn gobeithio newid ffawd Amgueddfa Lofaol Cefn Coed
    28 Tachwedd 2022

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi dewis cadw Amgueddfa Lofaol Cefn Coed gyda’r bwriad o dyfu’r lle’n atyniad treftadaeth o bwys.