Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cyngor i ddechrau ar gynllun rheoli llifogydd ‘naturiol’ mewn coetir gerllaw Parc Gwledig Gnoll
    13 Mawrth 2023

    Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dechrau ar gynllun rheoli llifogydd mewn dull naturiol cyn bo hir ymysg coed a blannwyd gan Goed Cadw ar Fferm Brynau wrth ochr Parc Gwledig Gnoll.

  • Paratowch ar gyfer Gwobrau Dinesig y Maer am yr eildro!
    08 Mawrth 2023

    Gosodwyd y dyddiad ar gyfer cynnal Gwobrau Dinesig Maer Castell-nedd Port Talbot, digwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal yr ail dro eleni.

  • Rhaglen sy’n werth £3.23m i atgyweirio a chynnal llwybrau, heolydd, pontydd a draenio ledled CPT
    07 Mawrth 2023

    Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhaglen eang gwerth £3.23m o welliannau, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer llwybrau cerdded, heolydd, pontydd a systemau draenio ymhob rhan o’r fwrdeistref sirol.

  • Cyngor yn darparu cyllideb gytbwys wrth warchod swyddi a gwasanaethau allweddol
    06 Mawrth 2023

    Cafodd cyllideb gytbwys sy’n gwarchod gwasanaethau hanfodol ac yn diogelu cannoedd o swyddi lleol, ac ar yr un pryd yn cynyddu gwariant mewn meysydd pwysig fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ei gymeradwyo mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd iau (2 Mawrth 2023).

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyhoeddi galwad am brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
    06 Mawrth 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn galw am geisiadau ar gyfer prosiectau sy’n gallu cael eu cyflawni fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

  • Maer Ieuenctid newydd Castell-nedd Port Talbot, Maddie Pritchard, i ganolbwyntio ar y Gymraeg a'r Amgylchedd
    03 Mawrth 2023

    Mae Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Karen Jones, wedi urddo Maddie Pritchard, sy'n 17 oed, yn Faer Ieuenctid newydd y cyngor, mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhort Talbot ar Ddydd G?yl Dewi 2023.

  • Amgueddfa Cymru – Diwrnod Canfyddiadau’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy gydag Chlwb Archeolegwyr Ifanc CPT
    28 Chwefror 2023

    Mae’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy (Portable Antiquities Scheme – PAS) yn annog dweud am eitemau archeolegol a ganfuwyd gan olrheinwyr metel ac aelodau eraill o’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd miloedd o eitemau’n cael eu canfod gan olrheinwyr metel yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 20-30 eitem a nodir fel Trysor.

  • Gwaith ffordd hanfodol yn Nyffryn Afan – newid i’r amserlen
    28 Chwefror 2023

    Oherwydd amgylchiadau na ellid mo’u rhagweld, ni fydd y gwaith o osod wyneb newydd ar Heol Maesteg yn digwydd ddydd Iau 2 Mawrth. Cafodd y gwaith gosod wyneb newydd ei ail-amserlennu, a bydd yn digwydd ddydd Gwener 3 Mawrth yn lle nawr.

  • Amser i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot benderfynu ynghylch cynigion ar gyfer cyllideb 2023/24
    23 Chwefror 2023

    Mae cynigion Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer cyllideb 2023/24 yn canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau hanfodol a channoedd o swyddi yn wyneb yr heriau sy'n gysylltiedig â'r rhyfel yn Wcráin, COVID-19, Brexit a chwyddiant niweidiol.

  • Digwyddiad Bord Gron yn dechrau rhoi ffocws ar y sgiliau a’r hyfforddiant fydd ei angen ar gyfer chwyldro gwyrdd Cymru
    23 Chwefror 2023

    Fe wnaeth trafodaeth bord gron a fynychwyd gan gryn nifer yng Nghampws y Bae Prifysgol Abertawe ar Chwefror 17 ddechrau archwiliad mawr o’r ffordd orau i wneud yn fawr o’r sgiliau a’r hyfforddiant fydd angen ei weld ar gyfer yr economi werdd sy’n prysur ymestyn yn ne orllewin Cymru.