Hepgor gwe-lywio

Maes chwarae antur Parc Gwledig Margam yn cael ei enwi fel un o’r gorau ym Mhrydain

30 Mawrth 2023

Gyda’r Pasg ar y gorwel, mae papur newyddion y Times wedi enwi maes chwarae antur Parc Gwledig Margam fel un o’r goreuon yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r papur wedi dweud mai dyma un o blith y saith gorau ym Mhrydain, ynghyd â mannau fel Wildplay yn Keswick, Cymbria, Lilidorei (strwythur chwarae mwyaf y byd) ar dir Castell Alnwick, Northumberland, a Tudor Towers yng Nghaint.

Yn ôl yr hyn a ddywed y Times am yr atyniad yng Nghastell-nedd Port Talbot (sydd ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed yn ddelfrydol): “Castell bach gyda th?r gwylio a llithren enfawr yw’r nodweddion gorau yn y maes chwarae antur hwn, ond bydd plant llai yn cael eu hudo gan y pentref tylwyth teg yn llawn o dai bychan.

“Gyda’r castell, y trên stêm, a llyn i gaiacio ar ei draws, mae’n hawdd treulio’r diwrnod cyfan yma. Cofiwch gadw llygad barcud am y gyr o geirw sy’n crwydro’r parcdir hefyd.”

Meddai’r Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant: “Mae’n braf cael cydnabyddiaeth gan un o bapurau cenedlaethol mwyaf adnabyddus Prydain, ac mae’r anrhydedd hwn yn glod i bawb sy’n rhan o’r gwaith o gynllunio a chynnal y maes chwarae antur poblogaidd hwn.

“Mae gan Gastell-nedd Port Talbot gyfan lawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr dros y Pasg eleni, gyda thonnau a rhaeadrau, mynyddoedd, afonydd a chymoedd – mae’r cyfan yn faes chwarae antur naturiol ar gyfer gwneud dewis helaeth o weithgareddau.

“Mae ein llwybrau beicio mynydd yng Nghwm Afan gyda’r anoddaf yn y wlad, wrth gwrs, ond dyma’r mwyaf cyffrous a bywiocaol hefyd. Ac mae’r erthygl yn ffordd dda o’n hatgoffa am y pethau sy’n cael eu cynnig yn un o’n hatyniadau mwyaf adnabyddus, Parc Gwledig Margam.”

Rhannu eich Adborth