Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Datganiad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â choncrit awyredig awtoclafiedig cydnerth (RAAC)
    08 Medi 2023

    Gallwn gadarnhau nad oes dim concrit awyredig awtoclafiedig cydnerth (RAAC) wedi cael ei ddarganfod yn yr un o adeiladau ysgolion y fwrdeistref sirol. Er nad ydym yn rhagweld y byddwn yn darganfod RAAC mewn adeiladau eraill a reolir gan y cyngor, rydym yn cynnal ein harchwiliadau terfynol ar hyn o bryd. Byddwn yn rhoi gwybod i rieni, disgyblion, staff a thrigolion am unrhyw ddatblygiadau posibl yn y dyfodol.

  • Laureate Plant y DU yn ymweld â Llyfrgell Castell-nedd
    07 Medi 2023

    Fel rhan o'i daith genedlaethol o amgylch llyfrgelloedd, bydd Laureate Plant y DU, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Castell-nedd ddydd Sadwrn 9 Medi rhwng 9:00am a 10:30am.

  • Diwrnod o weithgareddau wedi'u drefnu ym Mharc Gwledig Margam ar gyfer dechrau cymal olaf Tour of Britain 2023
    06 Medi 2023

    Mae'r paratoadau olaf ar y gweill ym Mharc Gwledig Margam lle y bydd cymal olaf ysblennydd ras feicio Tour of Britain 2023 yn dechrau ddydd Sul (10 Medi).

  • Rhybuddio preswylwyr Castell-nedd Port Talbot am fasnachwyr stepen drws
    04 Medi 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus o fasnachwyr sy'n galw heibio'u cartrefi'n ddiwahoddiad.

  • Dathlwch Ein Treftadaeth a Chymerwch Ran yng Nghystadleuaeth Byddwch yn Rhan o'n Hanes!
    04 Medi 2023

    Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed, yn ymddiddori mewn diwylliant a threftadaeth ac yn byw, yn astudio neu'n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydych chi'n cael eich gwahodd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘Byddwch yn Rhan o'n Hanes’ Cyngor Castell-nedd Port Talbot.