Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Ysgol yn rhyddhau datganiad ar ôl marwolaeth drist disgybl o ganlyniad i’r fogfa mewn gŵyl gerddoriaeth
    31 Mai 2023

    Mae Ysgol Cwm Brombil wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn â marwolaeth annhymig disgybl yn yr ysgol o ganlyniad i bwl o’r fogfa yn ystod Gŵyl In It Together ym Margam ddydd Gwener diwethaf.

  • Dewch i weld atyniad diweddaraf Parc Gwledig Gnoll – Tŵr Chwarae’r Goedwig!
    26 Mai 2023

    Mae Tŵr Chwarae’r Goedwig rhyfeddol wedi cael ei gwblhau ym Mharc Gwledig Ystâd Gnoll yng Nghastell-nedd – yr atyniad dros 100 erw o faint a dirluniwyd yn y ddeunawfed ganrif.

  • Cyngor yn ennill grant i helpu i wneud cartrefi Castell-nedd Port Talbot yn wyrddach
    25 Mai 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn grant i helpu cartrefi yn y fwrdeistref sirol ddod yn fwy ynni-effeithlon, gan helpu i leihau biliau ynni a chreu swyddi gwyrdd.

  • Cymorth busnes AM DDIM ar gael i fusnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes yn CNPT
    25 Mai 2023

    Bwriedir cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymunedol er mwyn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes ledled Castell-nedd Port Talbot.

  • Clymblaid yr Enfys Castell-nedd Port Talbot yn mynd o nerth i nerth er gwaethaf amodau heriol
    25 Mai 2023

    Dywed Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, ei fod yn teimlo’n ‘ddiymhongar iawn’ o gael ei benodi i arwain Clymblaid yr Enfys, sy’n rheoli’r awdurdod am flwyddyn arall, yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol (AGM) y cyngor ddydd Mercher 24 Mai, 2023.

  • Maer Newydd Castell-nedd Port Talbot yn Tyngu Llw ar gyfer 2023/24
    25 Mai 2023

    Mae’r Cynghorydd Chris Williams (De Bryncoch) wedi tyngu llw fel Maer newydd Castell-nedd Port Talbot.

  • Ar fin dod – ffefryn y teulu, Aqua Splash!
    24 Mai 2023

    Bydd un o brif atyniadau glan môr Aberafan, yr Aqua Splash, yn agor ddydd Gwener 26 Mai, 2023.

  • Rhaid i fenyw dalu bron i £1,000 am daflu sigarét ar ôl ysmygu ar y stryd
    23 Mai 2023

    Talodd Donna Forkin bris drud iawn am daflu sbwriel ar y stryd ar Stryd Fawr, Glyn-nedd, heb iddi sylweddoli fod Swyddog Gorfodi Gwastraff o Gyngor Castell-nedd Port Talbot gerllaw.

  • Agor ardal chwarae a adnewyddwyd yn Nhonna i blant – a chŵn anwes!
    22 Mai 2023

    Croesawyd parc chwarae i blant a adnewyddwyd yn Nhonna, Castell-nedd gan Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant, y Cynghorydd Jeremy Hurley.

  • Mae e fel Toy Story! Richard, gweithiwr sbwriel o Bort Talbot, yn cael ei droi’n ffigwr antur tebyg i ddyn go iawn
    19 Mai 2023

    Mae artist mawr ei fri gyda Marvel Comics wedi creu ffigwr antur o weithiwr gwastraff gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Richard Brace, fel rhan o ymgyrch gan yr undeb gwasanaethau cyhoeddus UNISON i godi ymwybyddiaeth o’r rôl sydd gan gynghorau i’w gymryd wrth ddarparu gwasanaethau beunyddiol hanfodol.