Datganiad I'r Wasg
-
Datganiad Aweinydd y Cyngor i Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot 19 Hydref 202319 Hydref 2023
Cyfarfu y Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot am y tro cyntaf ar ddydd Iau, Hydref 19 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot lle cytunwyd ar y ffyrdd o weithio, cylch gorchwyl y bwrdd ac aelodaeth y bwrdd.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot19 Hydref 2023
Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel.
-
Cyngor yn cyhoeddi pwy fu’n llwyddiannus wrth dderbyn Cronfa Dreftadaeth Gymunedol newydd CnPT19 Hydref 2023
Mae ysgol, capel, ymddiriedolaeth gymunedol a llyfrgell gymunedol ymysg ymgeiswyr llwyddiannus yn y cylch diweddaraf o gyllid i’w roi gan Gronfa Dreftadaeth Gymunedol newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
-
Cyllid ar gael i daclo tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot17 Hydref 2023
Bellach, gall grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n bodoli â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda thlodi bwyd, ac atal tlodi bwyd gyflwyno ceisiadau ar lein.
-
Anrhydeddu Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ei ymrwymiad i gydraddoldeb yng ngwobrau olaf Chwarae Teg17 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr am ei ymrwymiad i gydraddoldeb yn y seremoni wobrwyo olaf i’w chynnal gan yr elusen cydraddoldeb rhyw Chwarae Teg.
-
Gweinidog yn agor cyfleusterau newydd mewn ysgol i gryfhau addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Tawe16 Hydref 2023
Cafodd dosbarthiadau newydd a Chanolfan Drochi’r Iaith Gymraeg eu hagor yn swyddogol ddydd Gwener 13 Hydref 2023 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe Gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS.
-
Acrobatiaid awyr mewn perygl – sut mae rhan o Bontardawe am ddod yn hafan ddiogel i wenoliaid duon13 Hydref 2023
Mae’i sgrech wedi arwyddo dyfodiad yr haf i ni ers miloedd o flynyddoedd, ond bellach mae’r wennol ddu (swift) hynafol mewn perygl o ddiflannu o’n hawyr.
-
Cyngor yn Galw am Farn ar Strategaeth Dreftadaeth Ddrafft13 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn i bobl leisio’u barn am ei strategaeth Dreftadaeth ddrafft sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth eithriadol yr ardal, gan gynnwys ei phwysigrwydd economaidd, amgylcheddol a llesiannol.
-
Cynnwys Castell-nedd Port Talbot mewn ymrwymiad gwerth £200m a lansiwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol11 Hydref 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu cyhoeddiad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a fydd yn gweld y fwrdeistref sirol yn elwa o ran o £200m i helpu i drawsnewid treftadaeth yr ardal drwy fenter newydd Lleoedd Treftadaeth.
-
Dyn yn talu pris mawr ar ôl canfod gweddillion fferm ganabis wedi’i dympio mewn coedwig11 Hydref 2023
Mae ymchwiliad i olion fferm ganabis a ddympiwyd ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru ger Blaengwynfi, yn Nyffryn Afan ger Port Talbot, wedi costio bron i £2,000 i ddyn o Gaerffili.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 16
- Tudalen 17 o 21
- Tudalen 18
- ...
- Tudalen 21
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf