Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Bron i 300 o bobl ifanc o Gastell-nedd Port Talbot yn derbyn eu Gwobr Dug Caeredin

Cyflwynwyd gwobrau Efydd, Arian neu Aur i dros 280 o bobl ifanc yn noson gyflwyno Gwobrau Dug Caeredin Castell-nedd Port Talbot 2023, a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023, yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot.

Rhai o enillwyr Gwobr Dug Caeredin CNPT 2023 yn y llun gydag Arweinydd Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt (canol, rhes ganol)

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: “Mae Cynllun Dug Caeredin Castell-nedd Port Talbot yn rhoi cyfle rhagorol i ddarganfod diddordebau newydd, ennill hyder, adeiladu perthynas newydd ag eraill, gweithio mewn tîm, a llawer iawn mwy.

“Bydd enillwyr gwobrau gyda’r cynllun yn cael profiad na fyddan nhw byth yn ei anghofio, rhywbeth a fydd yn gadael ei ôl arnyn nhw weddill eu bywydau.”

Llywyddion y noson wobrwyo, oedd yn llawn dop, oedd cyn-ddisgyblion o ysgolion Castell-nedd Port Talbot a enillodd Wobr Aur, Aaron Williams (Ysgol Bae Baglan), sy’n hyfforddi i fod yn feddyg, Charlotte Britton (Ysgol Gyfun Llangatwg), sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd yn astudio pensaernïaeth fewnol, Cian Gwilym (Ysgol Gymraeg Ystalyfera), ar hyn o bryd yn gynorthwy-ydd dysgu, a Nicole Newton, (Ysgol Dyffryn Aman), swyddog carchar.

Cyflwynwyd y gwobrau Aur gan Ddirprwy Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, y Capten Huw Williams MBE a chyflwynwyd y gwobrau Arian gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, Prif Weithredwr y Cyngor, Karen Jones, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, ac AS Castell-nedd Jeremy Miles, AS Aberafan David Rees a Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams.

Cyflwynwyd y gwobrau Efydd gan Gyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin i Gymru, Stephanie Price, Dirprwy Faer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Gracie Radmore, Maer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Maddie Pritchard, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Cydol Oes Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Andrew Thomas a Phennaeth Datblygu Addysg y cyngor Chris Millis, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Sian Harris,  Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, y Cynghorydd Nia Jenkins a Chydlynydd Sgiliau Cyflogadwyedd a Thlodi’r cyngor, Angeline Spooner-Cleverly.

Mae sawl ysgol uwchradd ledled Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwobrau Efydd ac Aur i’w pobl ifanc, ble bydd arweinwyr ymroddedig yn eu harwain drwy’r camau.

Gellir cael mynediad i’r wobr Aur drwy’r Ganolfan Aur Agored, ble bydd y swyddog datblygu’r wobr yn lleol a thîm o wirfoddolwyr yn gweithredu fel tywyswyr ar gyfer gofynion amrywiol y wobr.

Gall unrhyw berson ifanc ennill eu Gwobr Dug Caeredin yng Nghastell-nedd Port Talbot, waeth beth fo’u gallu, rhyw, cefndir neu leoliad. Gan ddechrau ym Mlwyddyn Naw gyda’r lefel Efydd, symud ymlaen i Arian, ac yna gwblhau’r Aur cyn cyrraedd pump ar hugain oed.

I gael mwy o wybodaeth am Wobr Dug Caeredin Castell-nedd Port Talbot, a’r cynnig Aur Agored, ewch i www.nptdofe.co.uk  neu cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid CnPT sy’n cydlynu Gwobr Caeredin ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

hannwch hyn ar: