Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Un o’r goreuon – y cyhoedd yn dewis Parc Gwledig Margam fel un o brif lecynnau glas y DU
    09 Tachwedd 2023

    Mae defnyddwyr parciau ledled y DU wedi pleidleisio dros Barc Gwledig Margam fel un o’r llecynnau glas gorau yng Ngwobrau Dewis y Bobol Baner Werdd 2023.

  • Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth – cam allweddol o ran gwarchod natur a gwella llesiant
    09 Tachwedd 2023

    Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo’r diweddariad i Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2023-2026) yr awdurdod, sy’n lasbrint ar gyfer cadwraeth a chyfoethogi byd natur doreithiog sy’n ffynnu yn y Fwrdeistref Sirol.

  • Cyfle enfawr i adeiladwyr tai wrth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ailgychwyn ei gynllun datblygu hanfodol
    03 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi pennod newydd yn ei daith ddatblygu gyda diwygiad mawr i’w Gynllun Datblygu Lleol (LDP) diweddaraf.

  • Marwolaeth y Cynghorydd Marcia Spooner – datganiad
    03 Tachwedd 2023

    Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt y bydd colled enfawr ar ôl y Cynghorydd Marcia Spooner a fu farw ddydd Sul (Hydref 29, 2023).

  • Rhaglen gyllid gwerth £1.7m i adfywio cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot bellach ar agor
    01 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd cynigion am brosiectau ar gyfer gwario’i Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi (VVPF).

  • Help gyda chostau byw: Cefnogaeth sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y gaeaf eleni
    01 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ailbwysleisio’i ymrwymiad i gefnogi preswylwyr drwy’r argyfwng costau byw parhaus, gan sicrhau fod cymorth hanfodol ar gael i’r rheiny sy’n wynebu heriau ariannol dros y gaeaf eleni.

  • Rhaid i ddyn sy'n tipio gwastraff yn anghyfreithlon heb dalu Hysbysiad Cosb Benodedig dalu bron i £1,300
    31 Hydref 2023

    Mae dyn o Bort Talbot wnaeth dipio gwastraff gwyrdd yn anghyfreithlon ger canol y dref, ac yna fethu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig wedi cael ei ddedfrydu bellach i dalu dirwy, costau erlyn, a gordal effaith ar ddioddefwr, cyfanswm o £1,288.38.

  • Gŵyl Castell-nedd Port Talbot yn rhoi teyrnged i Gymuned y Lluoedd Arfog
    26 Hydref 2023

    Mae digwyddiad poblogaidd Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot yn dychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot ym mis Hydref a Thachwedd.

  • Cyhoeddi cyllid gan y Llywodraeth DU ar gyfer ‘Launchpad’ De-orllewin Cymru - ysgogi twf mewn technoleg adnewyddadwy
    23 Hydref 2023

    Bydd ‘Launchpad: diwydiant sero net, De-orllewin Cymru’ — prosiect partner sy’n adeiladu ar lwyddiant Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) — yn elwa ar hyd at £7.5m o fuddsoddiad newydd i sbarduno arloesedd a thwf busnes yr ardal mewn technolegau adnewyddadwy.

  • Newyddion yn torri! Ychwanegu cân eiconig i arlwy seren y West End
    20 Hydref 2023

    Mae’r seren o gantores y West End Sophie Evans wedi ychwanegu ‘We'll Meet Again’ i’w repertoire, a bydd yn rhoi’r perfformiad cyhoeddus cyntaf erioed o’r gân yn ddiweddarach ym mis Hydref ym Mhort Talbot.