Dogfen
Strategaeth wastraff
Crynodeb gweithredol
Mae angen gwella perfformiad ailgylchu er mwyn cyrraedd y targed statudol nesaf, sef 70%. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu, cynhaliwyd dwy seminar i bob Aelod, sef un ym mis Hydref 2022 ac un ym mis Chwefror 2023, ac yna cynhaliwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror hefyd. Cyflwynwyd adroddiad ar ganlyniad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ym mis Mawrth, a chafodd allbwn y Grŵp ei gymeradwyo i Fwrdd y Cabinet ei ystyried wrth wneud ei benderfyniad terfynol ynghylch cynllun gweithredu. Felly, caiff argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen eu nodi a'u hystyried yn yr adroddiad hwn, sy'n cynnwys y cynllun gweithredu arfaethedig canlyniadol.
Cefndir
Perfformiad ailgylchu'r Cyngor ar ddiwedd 2021/22 oedd 66% ac mae'r gwelliant parhaus blaenorol wedi sefyll yn stond. Felly, mae angen i'r Cyngor adolygu ei ddull gweithredu a llunio cynllun gweithredu er mwyn ailfywiogi twf mewn perfformiad er mwyn sicrhau y caiff y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70%, ei gyrraedd.
Gall methu â chyrraedd targed ailgylchu statudol arwain at ddirwy gan Lywodraeth Cymru o £200 am bob tunnell sy'n brin o'r targed, a hynny ym mhob blwyddyn y caiff y targed ei fethu. Amcangyfrifir y gallai Castell-nedd Port Talbot gael dirwy o £130,000 fesul 1% sy'n brin o'r targed. Felly, os na fydd cyfradd ailgylchu'r Cyngor yn gwella, gan olygu y bydd yn aros ar 66%; gallai cyfanswm y gosb ariannol bosibl fod tua £520,000 am bob blwyddyn y caiff y targed ei fethu. O ganlyniad i hynny, byddai cydymffurfio â'r targed statudol yn fodd i osgoi costau sylweddol, gan y byddai cosb o'r maint hwn yn cynyddu'r pwysau ariannol ar y Cyngor.
Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu, cynhaliwyd seminar i bob Aelod ar 13 Hydref 2022 lle y cafodd y cyd-destun a'r materion cyfredol eu cyflwyno a'u trafod, ynghyd â rhai camau gweithredu dangosol. Yn dilyn hyn, cafwyd cyfnod ymgynghori pedair wythnos o hyd er mwyn i Aelodau wneud cyfraniadau pellach neu gael atebion i ymholiadau pellach. Wedyn, cynhaliwyd seminar ddilynol ar 16 Chwefror 2023, lle y cafodd mesurau posibl wedi'u haddasu eu cyflwyno a'u hystyried ymhellach.
Hefyd, aeth Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ati i drefnu Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn ystyried ac awgrymu argymhellion ar Gynllun Gweithredu drafft y Strategaeth Wastraff. Cyfarfu'r Grŵp ar 24 Chwefror a chafodd adroddiad gan y Cadeirydd ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar 3 Mawrth. Cymeradwyodd y Pwyllgor ganfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a gofynnodd i Fwrdd y Cabinet eu hystyried wrth ddod i benderfyniad terfynol. Lle y gwnaed argymhellion mewn perthynas â chamau gweithredu arfaethedig, caiff y rhain eu nodi a'u trafod yn yr adroddiad hwn.
Cafodd ffioedd a thaliadau eu trafod yn y seminarau a hefyd yng Ngrŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu lle na wnaed dim awgrymiadau. Ar ben hynny, ymgynghorwyd ar gynyddu ffioedd a thaliadau fel rhan o'r ymgynghoriad cyffredinol ar y gyllideb. O ganlyniad, ymdriniwyd â ffioedd a thaliadau ar gyfer 2023/24 o dan y trefniadau pwerau dirprwyedig a gymeradwywyd gan y Cyngor fel rhan o broses pennu'r gyllideb, felly roeddent ar waith erbyn 1 Ebrill
Cynllun Gweithredu Arfaethedig
Mesur 1
Er mwyn moderneiddio'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a helpu i hwyluso gwell prosesau ar gyfer monitro gwasanaethau er budd cwsmeriaid, bwriedir cyflwyno system ddata ffrydio byw yng nghabiau cerbydau gwastraff.
Goblygiadau ariannol
Gwaith mapio prosesau, diweddaru data a llwyfan TG – £50,000, Cyfalaf untro – £150,000 (£3,000 fesul cerbyd), yn ogystal â chostau refeniw blynyddol parhaus o £15,000 y disgwylir gallu eu hadennill drwy wella'r ffordd y caiff contractau gwastraff masnachol eu rheoli yn unig
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 2
Cyflogi Swyddog Ailgylchu (Gradd 5) i fynd ar drywydd mwy o ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys ymgysylltu ag ysgolion a llunio deunyddiau addysgol ar-lein a chopi caled
Goblygiadau ariannol
Swyddog Gradd 5 – £30,000 y flwyddyn yn ogystal â chyllideb farchnata refeniw fel a ganlyn: Blwyddyn 1 – £15k gan gynnwys llunio adnoddau ar-lein newydd (yn ogystal â grant ychwanegol o £15k gan WRAP), O flwyddyn 2 ymlaen – £15k ar gyfer deunyddiau/hysbysebu/gweithgareddau yn y gymuned
Argymhellion
Mewn perthynas â'r mesur hwn, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu wedi argymell y dylid rhoi pwyslais ar bwysigrwydd addysgu'r cyhoedd ar y mesurau newydd posibl, a sicrhau y caiff taflenni gwybodaeth, hysbysebion a fideos ‘sut i...’ eu darparu i'r cyhoedd er mwyn ennyn diddordeb a chodi ymwybyddiaeth. Caiff pwyslais o'r fath ei roi drwy waith y Swyddog Ailgylchu arfaethedig.
Nodir bod arolwg diweddar a gynhaliwyd gan y Cyngor Diwydiant ar Ddeunydd Pacio a'r Amgylchedd wedi canfod bod 30% o bobl yn dweud bod diffyg gwybodaeth gan gynghorau am yr hyn a fydd yn digwydd i'w deunyddiau ailgylchu ar ôl iddynt gael eu casglu yn cael dylanwad negyddol ar eu hyder mewn ailgylchu. Bydd sicrhau na fydd hyn yn wir yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dasg benodol i'r Swyddog Ailgylchu a bwriedir rhoi pwyslais ar hyn hefyd.
Mesur 3
Ailgyflwyno bagiau baw cŵn bioddiraddadwy am ddim i'r cyhoedd eu defnyddio. Bydd bagiau ar gael i'w casglu o leoliadau yn y gymuned megis siopau lleol ochr yn ochr â'r bagiau gwastraff bwyd sydd eisoes ar gael
Goblygiadau ariannol
Cost gychwynnol ymlaen llaw o £24,000 ar gyfer prynu stoc (yn seiliedig ar un blwch bob pythefnos ar gyfer 60 o leoliadau yn y Fwrdeistref Sirol).
Cost barhaus: Fel yr esboniwyd yn y seminar gyntaf i bob Aelod, er bod y dystiolaeth yn awgrymu bod llawer o aelwydydd yn archebu bagiau gwastraff bwyd drutach i'w defnyddio fel bagiau baw cŵn, nid yw'n hysbys faint yn union o'r 30% ar gyfartaledd o aelwydydd â chŵn sy'n gwneud hyn. Byddai'n ddoeth rhagdybio na fyddai'r holl wariant ar fagiau baw cŵn yn cael ei adennill drwy arbedion o'r ddarpariaeth bagiau gwastraff bwyd, ac awgrymir y dylid cyllidebu ar gyfer cynnydd parhaus mewn refeniw net o £10,000 am fagiau baw cŵn (wedi'i amcangyfrif o gostau darpariaethau bagiau blaenorol).
Argymhellion
Mewn perthynas â'r mesur hwn, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu wedi awgrymu y dylai cynnydd o ran y mesur hwn gael ei adolygu ymhen blwyddyn er mwyn sicrhau bod y defnydd o'r bagiau baw cŵn yn cyrraedd y targedau amgylcheddol yn unol â'r cytundebau ariannol. Awgrymodd hefyd y dylid sicrhau bod bagiau baw cŵn ar gael ym mhob ward. Ar ben hynny, awgrymodd y dylid darparu peiriannau cyflenwi mewn mannau lle nad oes amwynderau cyhoeddus. Mewn ymateb i hynny, mae'r swyddogion yn bwriadu cynnwys diweddariad yn yr adroddiad perfformiad chwarterol cyntaf 12 mis ar ôl i'r bagiau ddechrau cael eu darparu i'r cyhoedd, a fydd yn cynnwys rhestr o fannau casglu ledled y Fwrdeistref Sirol. Wedyn, bydd yr Aelodau'n gallu cymharu cynnydd y cynllun â dangosyddion eraill megis nifer yr achosion o faeddu gan gŵn y rhoddir gwybod amdanynt, er enghraifft. Bydd swyddogion yn ceisio osgoi defnyddio peiriannau cyflenwi lle bynnag y bo modd, gan fod disgwyl i'r risg o fandaliaeth a chamddefnyddio'r bagiau fod yn uchel mewn mannau cyhoeddus, a byddai costau ychwanegol a materion yn ymwneud ag adnoddau'n gysylltiedig â monitro a stocio'r peiriannau.
Mesur 4
Ychwanegu gyrrwr danfon nwyddau Gradd 4 a fan ar gyfer offer ailgylchu ynghyd â dyraniad i'r gyllideb ar gyfer goramser mewn cyfnodau o gynnydd yn y galw am wasanaethau (h.y. yn yr haf ar gyfer bagiau gwyrdd, y Nadolig ac ati). Hefyd, ymchwilio i ddichonoldeb cyfleusterau ‘clicio a chasglu’ mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu leoliadau eraill lle y ceir staff.
Goblygiadau ariannol
Gyrrwr danfon nwyddau Gradd 4 a fan – £32,000 y flwyddyn
Goramser – £7,000 a diweddaru llechi danfon nwyddau er mwyn gwella effeithlonrwydd gwasanaethau – £1,400
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon
Mesur 5
Newidiadau i gasgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol
Bwriedir gwneud y canlynol:
- Diwygio'r cynllun peilot ar gyfer casglu cewynnau bob pythefnos i gynnwys darparu biniau storio, yn ogystal â sachau casglu porffor os bydd trigolion yn gofyn amdanynt, gan nodi bod 2,756 o aelwydydd wedi archebu bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol hyd yma. (Bydd timau cymdogaeth wedyn yn casglu biniau storio cewynnau nad oes eu hangen mwyach er mwyn eu hailgylchu);
- Gohirio'r cynlluniau i ehangu'r casgliadau ar wahân ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol i bob rownd yn 24/25.
Ar hyn o bryd, dim ond ar y rowndiau sy'n defnyddio'r ddau gerbyd peilot â thair adran y caiff cynhyrchion hylendid amsugnol eu cadw ar wahân. Ehangu'r casgliadau ar wahân drwy gynyddu nifer y cerbydau tair adran fyddai'r opsiwn rhataf o ran refeniw (er y byddai gwariant cyfalaf sylweddol) ond, yn ôl adborth y gyrwyr ar eu profiad yn ystod y treialon, mae'r cerbydau'n fwy cyfyngedig o ran ble y gallant fynd o gymharu â'r cerbyd cefn hollt arall, am eu bod yn fwy. Felly, nid yw cyflwyno cerbydau tair adran yn lle pob un o'r cerbydau cefn hollt yn opsiwn. O ganlyniad i hynny, byddai angen i'r casgliadau ‘cewynnau’ ar wahân gael eu hehangu i bob rownd gan ddefnyddio cerbydau eraill megis lorïau codi nad ydynt yn gerbydau nwyddau trwm, gyda'r gyrwyr yn casglu cynhyrchion hylendid amsugnol ar wahân ar rowndiau na chânt eu cyflawni gan y cerbydau tair adran. Amcangyfrifir y byddai hyn yn costio tua £260,000 y flwyddyn, a chredir bod hynny, ar ei ben ei hun ac yng nghyd-destun sefyllfa gyllidebol bresennol y Cyngor, yn anfforddiadwy ar hyn o bryd. Felly, bwriedir ehangu'r casgliadau ar wahân ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2024/25 pan fydd disgwyl i'r sefyllfa ariannol fod yn fwy ffafriol.
Goblygiadau ariannol
Biniau storio – cost untro o £35,000 (telir am unrhyw finiau newydd yn lle hen rai drwy'r gyllideb gyfredol ar gyfer offer)
Argymhellion
Mewn perthynas â'r mesur hwn, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu wedi awgrymu y gellid defnyddio'r bin storio fel bin cyflwyno hefyd, gyda'r sachau casglu porffor yn cael eu storio yn y bin a hefyd yn cael eu cyflwyno yn y man casglu y tu mewn i'r bin er mwyn i'r criw gasglu'r bag o'r bin. Mewn ymateb i'r awgrym hwn, mae'r swyddogion yn argymell y dylid parhau i gyflwyno cynhyrchion hylendid amsugnol yn y bagiau porffor. Cais am fin storio i gadw'r bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol rhwng diwrnodau casglu, gan fod cynhyrchion hylendid amsugnol yn cael eu casglu bob pythefnos, oedd y mwyafrif helaeth o'r adborth gan y cyhoedd ar y casgliadau peilot. Byddai cyflwyno'r bagiau mewn bin yn creu problemau gweithredol ac yn effeithio ar y criwiau, gan olygu y byddai casglu'r bagiau'n cymryd mwy o amser wrth i weithwyr dynnu'r bagiau o'r blychau yn y mannau casglu neu fynd â'r biniau at y cerbyd casglu ac oddi wrtho. Hefyd, yn yr ail achos, byddai llai o gyfle i weithwyr asesu cynnwys y bagiau a byddent yn llai tebygol o allu canfod unrhyw gamddefnydd o gasgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol.
Mesur 6
Adolygu polisi eithrio ‘gwastraff ochr’ a thelerau ac amodau cysylltiedig mewn perthynas â chasglu cynhyrchion hylendid amsugnol a phroblemau camddefnydd presennol. Hefyd, adolygu polisïau gorfodi sbwriel/gwastraff lle bo angen.
Goblygiadau ariannol
Dim; gellir cwblhau hyn o fewn yr adnoddau sydd eisoes ar gael.
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 7
Adolygu'r cynwysyddion a ddarperir ar gyfer casgliadau ailgylchu:
Nodir bod nifer o wahanol ddyluniadau seliau wedi cael eu treialu ar gyfer sachau plastig a chardbord ond gwelwyd nad yw'r dyluniadau a dreialwyd yn addas ar gyfer yr agoriadau ar y cerbydau casglu deunyddiau ailgylchu presennol. Caiff y rhain eu hadolygu eto pan gaiff cerbydau newydd eu cyflwyno yn 2023/24. Yn y cyfamser: bwriedir marchnata'r negeseuon canlynol yn well: ‘peidiwch â gorlenwi bagiau’; ‘defnyddiwch y Velcro i'w cau’; a ‘gofynnwch am ragor o fagiau os bydd angen’ (yn gysylltiedig â Mesur 2).
Goblygiadau ariannol
Dim ar hyn o bryd.
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 8
Strydoedd glanach yn dilyn casgliadau.
Bwriedir rhoi rhai mesurau ar waith er mwyn helpu i gadw'r strydoedd yn lanach a helpu'r criwiau i gymryd mwy o berchnogaeth dros eu rowndiau fel a ganlyn:
- Cadw cofnodion cywir o rowndiau casglu a'u hailgydbwyso lle bo angen (mae arolwg o rowndiau sbwriel eisoes wedi cael ei gynnal, ac mae arolwg o rowndiau ailgylchu wedi'i drefnu ar gyfer mis Ebrill);
- Ystyried cynnal mwy o sefydlogrwydd o ran y criwiau sydd wedi'u dyrannu i rowndiau;
- Gwella'r negeseuon sy'n gysylltiedig â thywydd garw a sbwriel sy'n chwythu yn y gwynt (yn gysylltiedig â Mesur 2);
- Gwneud cymaint o ddefnydd â phosibl o finiau ar olwynion lle bo hynny'n ymarferol er mwyn lleihau effaith anifeiliaid;
- Gwella'r cydlynu â gwaith glanhau strydoedd ymhellach;
- Lle nad yw'r Cyngor yn glanhau strydoedd/lonydd heb eu mabwysiadu o gwbl ar hyn o bryd – asesu'r nifer lle rydym yn casglu gwastraff a chost glanhau'r rhain fel rhan o Fesur 11.
Goblygiadau ariannol
Dim ar hyn o bryd
Argymhellion
Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu wedi awgrymu y dylai swyddogion fonitro'r gwelliant o ran cydlynu gwaith glanhau strydoedd yn dilyn y casgliadau a sicrhau bod hyn yn gyson ledled y Fwrdeistref Sirol. Mewn ymateb i hynny, nodir y bydd goruchwylwyr Gwasanaethau Gwastraff a Chymdogaeth yn parhau i fonitro lefelau glendid strydoedd ledled y Fwrdeistref Sirol ac, ar y cyd â rheolwyr gwasanaethau, yn gwneud eu gorau i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n gyson drwy gyfeirio'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Fodd bynnag, nid yw lefel sylfaen materion yn ymwneud ag ansawdd amgylcheddol lleol yn gyson ledled y Fwrdeistref Sirol ac ni ellir cyfeirio'r holl adnoddau at ardaloedd â phroblemau acíwt. Mewn perthynas â chasgliadau gwastraff, er y dylai criwiau geisio clirio unrhyw sbwriel a gaiff ei greu yn ystod y broses gasglu, bydd gwybodaeth o gamerâu yn y cerbydau mewn ymateb i gwynion yn aml yn dangos bod cryn dipyn o sbwriel yn bresennol cyn y casgliad gwastraff. Serch hynny, un o nodau'r newidiadau yw ei gwneud yn haws i unrhyw broblemau sy'n ymwneud â chriwiau, megis rhuthro a gadael llanast, gael eu cysylltu â'r criwiau perthnasol fel y gellir eu datrys gyda nhw yn uniongyrchol.
Mesur 9
Cyflogi dau Swyddog Ymwybyddiaeth a Chydymffurfiaeth Ailgylchu ychwanegol a gwneud y canlynol
- Cwblhau rhaglen plotio ‘Mannau Casglu’ a chyflwyno cyfleusterau ailgylchu cymunol lle bo angen/lle y bo'n fuddiol;
- Cyflwyno rhagor o rifo biniau mewn mannau problemus;
- Cwblhau'r treialon casgliadau ‘blaen y tŷ’ presennol;
- Parhau â newidiadau pellach i gasgliadau o lonydd cefn i flaen y tŷ lle y ceir problemau amgylcheddol acíwt ar lonydd cefn, os bydd hynny'n briodol;
- Cynyddu gweithgarwch gorfodi gwastraff ar lonydd cefn lle y caiff casgliadau eu symud i flaen y tŷ;
- Adolygu lefelau hysbysiadau cosb benodedig am droseddau amgylcheddol/gwastraff
Goblygiadau ariannol
2 x swyddog Gradd 6 gyda cherbydau – cost amcangyfrifedig o £87,000 y flwyddyn
Cost ychwanegol am labeli biniau – cost untro ddangosol o £35,000
(efallai y bydd angen rhagor o gyllid i ehangu'r cynllun os bydd yn llwyddiannus, a byddai swyddogion yn ceisio talu am hynny drwy arbedion o wasanaethau gwaredu gwastraff wrth i'r cynllun fynd rhagddo).
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 10
Cymryd camau gorfodi yn erbyn yr aelwydydd hynny nad ydyn yn cymryd rhan yng nghynllun ailgylchu'r Cyngor mewn unrhyw ffordd, a'r rhai nad ydynt yn ailgylchu gwastraff bwyd yn benodol.
Cynnal cynllun peilot o weithgarwch gorfodi fesul cam wedi'i dargedu ym Mlaendulais er mwyn profi'r gwaith papur a'r gweithdrefnau, ac yna ei roi ar waith mewn ardaloedd eraill. (Noder: Blaendulais yw un o'r ardaloedd â'r cyfraddau cyfranogi isaf o ran ailgylchu gwastraff bwyd)
Byddai'r camau gorfodi yn ardal y cynllun peilot yn cael eu cyflwyno drwy ohebiaeth esboniadol i'r holl drigolion, ynghyd â gwybodaeth gyffredinol am ailgylchu a'r gallu i gael offer ychwanegol lle bo angen.
Byddai'r dull fesul cam fel a ganlyn:
- Anfon llythyr i bob cartref yn atgoffa trigolion i beidio â rhoi eitemau y gellid eu hailgylchu yn eu biniau ar olwynion/bagiau.
- Ymweliad(au) codi ymwybyddiaeth ag eiddo nad ydynt yn cymryd rhan.
- Cymryd camau gorfodi angenrheidiol drwy Hysbysiad Adran 46 cyfreithiol a Hysbysiadau Cosb Benodedig.
Goblygiadau ariannol
Dim. Y tri Swyddog Ymwybyddiaeth a Chydymffurfiaeth Ailgylchu presennol, yn ogystal â'r ddau Swyddog ychwanegol arfaethedig (Mesur 9) fyddai'n cymryd y camau gorfodi
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 11
Ymgynghori'n ffurfiol ag aelwydydd, y gweithlu a'u cynrychiolwyr undebau llafur, a rhanddeiliaid eraill megis ein cwsmeriaid gwastraff masnachol, ar newid i gasgliadau bob tair wythnos ar gyfer gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu gan ddefnyddio'r terfyn presennol o dri bag/un bin ag olwynion 140L, ochr yn ochr â pharhau â chasgliadau wythnosol ar gyfer gwastraff y gellir ei ailgylchu gan gynnwys gwastraff bwyd; papur a chardbord; plastig a chaniau metel; batris y cartref a gwydr. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried y ffordd ymlaen o ran amlder casgliadau gwastraff gwyrdd a chewynnau.
Yn amodol ar yr ymgynghoriad, y cynigion terfynol ar gyfer casgliadau gwyrdd a chewynnau (i ddod yn ôl gerbron Bwrdd y Cabinet), a pharhad perfformiad ailgylchu is na 70%, rhoi casgliadau bob tair wythnos ar waith yn 2024/25 (blwyddyn y targed 70%) ochr yn ochr â chasgliadau ailgylchu wythnosol.
Goblygiadau ariannol
Er y disgwylir arbed ar gerbydau casglu sbwriel ac ar ‘waredu’ deunyddiau os caiff casgliadau bob tair wythnos eu rhoi ar waith ac os bydd perfformiad ailgylchu'n gwella, rhagwelir y gall fod angen buddsoddiad net cyffredinol o hyd er mwyn gwneud y newid. Er enghraifft, nid yw'r Cyngor yn casglu cynhyrchion hylendid amsugnol bob wythnos ar hyn o bryd, ac nid yw'n dymuno casglu gwastraff gwyrdd ar wahân a chodi tâl am hynny fel yr argymhellir gan Lywodraeth Cymru (i'r graddau y bydd hynny'n talu ei ffordd). Bydd casglu gwastraff gwyrdd a chynhyrchion hylendid amsugnol yn amlach yn costio arian – gyda phosibilrwydd y bydd tri cherbyd yn teithio ar hyd bob stryd mewn wythnos casglu sbwriel a deunyddiau ailgylchu yn hytrach na dau gerbyd fel sy'n digwydd ar hyn o bryd (sef un cerbyd sbwriel bob tair wythnos a dau gerbyd deunyddiau ailgylchu bob wythnos). Fel y gellir gweld yn y tabl cryno ariannol isod, yn achos unrhyw newid i gasglu gwastraff bob tair wythnos, rhagdybir y bydd yr arbedion o ran adnoddau o wasanaethau casglu sbwriel yn cael eu defnyddio i gasglu gwastraff gwyrdd a chynhyrchion hylendid amsugnol yn amlach. Nodir hefyd, gan ei fod yn cael ei ohirio tan 2024/25, y dylai Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr gael ei gyflwyno tua'r adeg honno ac y dylai cyllid gan fusnesau drwy'r Llywodraeth mewn perthynas â gwastraff deunydd pacio dalu cyfran o unrhyw gostau casglu, gan wella'r sefyllfa ariannol.
Argymhellion
Mewn ymateb i'r mesur hwn, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu wedi awgrymu peidio â chynnal yr ymgynghoriad ar unwaith yn 2023/24 a'i ohirio cyn hired â phosibl, er mwyn i'r mesurau eraill i gynyddu cyfraddau ailgylchu a gwella'r gwasanaeth allu cael eu rhoi ar waith yn gyntaf. Diben hyn yw osgoi ymgynghori'n ddiangen ar gynnig na fydd ei angen yn y tymor byr o bosibl, gan dynnu sylw pobl oddi ar y negeseuon pwysig a'r tasgau addysgu y bydd eu hangen er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu yn y Fwrdeistref. Mewn ymateb i hynny, mae'r swyddogion yn credu ei bod yn ddigon posibl y bydd angen cyflwyno casgliadau bob tair wythnos yn 2024/25 er mwyn cyrraedd y targed ailgylchu nesaf o 70%, sef y rheswm pam mae'r mesur yn y cynllun, ac mae angen i baratoadau ac ymgynghoriadau manwl ddechrau nawr. Felly, argymhellir peidio â gohirio.
Mesur 12
Parhau â'r system archebu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Goblygiadau ariannol
Dim (gellid disgwyl cynnydd yn y gyllideb pe bai'r system yn cael ei dileu).
Er mwyn helpu i ddarparu'r gwasanaethau, bwriedir gwella'r llechi TG a ddefnyddir yn y Canolfannau am gyfanswm cost o £2,100.
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 13
Adfer deunyddiau ailgylchu o sbwriel yn well
- Cwblhau dadansoddiadau o finiau sbwriel ar y stryd a sbwriel ar ochr y ffordd;
- Asesu effaith debygol Cynllun Dychwelyd Ernes a Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr cenedlaethol
- Parhau i anfon sbwriel i safleoedd Troi Gwastraff yn Ynni
Ystyried defnyddio cyllid Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ym maes sbwriel ar y stryd er mwyn:
- Gwella prosesau casglu deunyddiau ailgylchu o finiau sbwriel ailgylchu;
- Pwyso a mesur cael codwyr sbwriel yn gwahanu deunyddiau penodol o gymharu â chodi sbwriel yn ‘ysgafn’ dros gludydd ar gyfer gwydr, caniau a chardbord (er y gall y Cynllun Dychwelyd Ernes olygu y bydd gwydr a chaniau'n diflannu).
Goblygiadau ariannol
Cost dadansoddiad cyfansoddol – cost flynyddol o £6.5k am dair blynedd. (Bydd y wybodaeth hon hefyd yn bwysig er mwyn helpu i sicrhau y bydd y Cyngor yn cael y swm cywir o gyllid Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i ymdrin â sbwriel ar y stryd pan fydd y cynigion wedi'u cadarnhau'n derfynol)
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 14
Ystyried ymestyn casgliadau batris i gynnwys eitemau trydanol bach – beth bynnag a fydd yn ffitio yn y bag batris:
- Treialu rhai casgliadau;
- Ystyried y deunyddiau sy'n deillio o hyn ar ôl cyfnod sefydlu;
- Ystyried cynyddu maint y bag batris (treialu bag mwy a chawell gasglu arbennig yn y genhedlaeth nesaf o gerbydau)
Ehangu casgliadau eitemau trydanol bach os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus.
Noder: Mae ein prosesydd batris wedi cadarnhau na fyddai'n derbyn llwyth cymysg o fatris a chyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach, ond nodir mai dim ond dwywaith y flwyddyn y mae ein prosesydd yn casglu batris ar sail y niferoedd presennol. Pe bai cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach a batris yn cael eu cymysgu, byddai'n rhaid i ni wahanu'r ddwy ffrwd cyn eu hanfon i gael eu hailbrosesu (neu roi'r gorau i gasglu batris wrth ymyl y ffordd a chasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach yn unig yn lle hynny).
Goblygiadau ariannol
Byddai angen i'r ymarfer peilot ddatrys mater gwahanu'r deunyddiau a phennu'r gost.
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 15
Rhoi'r cynlluniau i ailgyflwyno casgliadau tecstilau o'r neilltu am y tro er mwyn canolbwyntio ar adfer gwastraff bwyd a gwelliannau eraill.
Mae'r rheswm pam y rhoddwyd gorau i'r casgliadau tecstilau blaenorol (fel y nodir yn yr adroddiad Aelod cysylltiedig) yn dal yn ddilys i raddau helaeth. Hefyd, nodir bod canfyddiadau adroddiad diweddar gan WRAP Cymru ar decstilau a gesglir wrth ymyl y ffordd yn dangos mai'r deunyddiau sy'n deillio o hyn sydd o'r ansawdd gwaethaf o gymharu â'r deunyddiau a gesglir o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a banciau casglu. Hefyd, mae'r farchnad ar gyfer ailbrosesu tecstilau yn dal heb aeddfedu ac mae ei chapasiti'n gyfyngedig. O ran y newidiadau a ragwelir i'r rheoliadau ‘ailgylchu masnachol’, mae nifer y cwsmeriaid busnes yn CNPT yn fach iawn a cheir ar ddeall y bydd mynediad at gyfleusterau ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn llwybr derbyniol ar gyfer unrhyw ailgylchu tecstilau o wastraff masnachol.
Goblygiadau ariannol
Dim
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 16
Gweithio gydag uned fusnes y tîm Eiddo ac Adfywio i gwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer agor siop ‘Atgyweirio/Ailddefnyddio’ yng nghanolfannau masnachol Port Talbot, Castell-nedd a Phontardawe.
Gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid o gronfa'r Economi Gylchol a'r gronfa Trawsnewid Trefi i roi'r canfyddiadau ar waith fel y bo'n briodol (bydd modd gwneud ceisiadau am grantiau o gronfa'r Economi Gylchol ar sail treigl am ddwy flynedd o fis Ebrill 2023 ymlaen)
Goblygiadau ariannol
Cyllid untro o £30,000.
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 17
Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn ardal Port Talbot/Cwm Afan Isaf yn lle cyfleuster Cymer, a chyflwyno adroddiad i'r Aelodau ar y canfyddiadau.
Goblygiadau ariannol
Cyllid untro o £50,000
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Mesur 18
Cwblhau'r broses o uno gwasanaethau'r tîm casglu gwastraff a thîm yr orsaf drosglwyddo, cwblhau'r gwaith ar safle'r orsaf drosglwyddo a symud y fflyd casglu gwastraff i'r orsaf drosglwyddo.
Goblygiadau ariannol
Eisoes wedi'i gytuno drwy adroddiad Cabinet mis Gorffennaf 2022.
Argymhellion
Ni chafwyd argymhellion gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r eitem hon.
Cynigion ychwanegol gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu
Cafodd y cynigion ychwanegol canlynol hefyd eu cyflwyno gan aelodau'r Pwyllgor Craffu:
-
Y dylai'r Pwyllgor Craffu adolygu a monitro'r polisi casgliadau a gollwyd. Mae'r Swyddogion Craffu yn ymwybodol o'r cais a gallant ychwanegu adolygiad o'r polisi casgliadau biniau a gollwyd at flaenraglen waith y pwyllgor.
-
Y dylid rhoi mesurau ar waith i sicrhau addysg a chyfathrebu cywir ar gyfer y cyhoedd ynglŷn â'r disgwyliadau o ran pryd y caiff eu bin ei gasglu ar ôl i gasgliad gael ei golli. Mewn ymateb i hynny, cynigir y bydd swyddogion gwastraff yn gweithio gyda chydweithwyr corfforaethol yn nhimau'r Cyfryngau a Gwasanaethau Cwsmeriaid er mwyn rhoi mesurau ar waith i dynnu sylw at bolisi'r Cyngor a sicrhau negeseuon cyson.
-
Y dylid cynnal rhaglen dreigl o ymgysylltu â'r gwasanaeth ar ffurf arolwg cyhoeddus. Mae'r gwasanaeth wedi ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar nifer o achlysuron megis treialon blaen y tŷ; ymarferion rhifo biniau a gwaith ymgysylltu ag ysgolion. Ar ben hynny, mae'r cynllun gweithredu'n cynnwys ymgyngoriadau arfaethedig ar newidiadau i wasanaethau. O ran ymgysylltu ynghylch boddhad cyffredinol â gwasanaethau ac ati, bwriedir bwrw ymlaen â hyn gyda chydweithwyr corfforaethol fel rhan o'r gwaith a wneir drwy'r Panel Dinasyddion sydd wedi'i sefydlu.
Effeithiau ariannol
Rhoddir tabl cryno o'r effeithiau isod:
Mesur (Yn gryno) | Cyfalaf Untro (£) | Refeniw Bl 1 2023/24 (£) | Refeniw Bl 2 /Parhaus (£) |
---|---|---|---|
System ddata mewn cabiau | 150,00 | 65,000 | 15,000 |
Swyddog Ailgylchu ac adnoddau cyfryngau | 0 | 45,000 | 45,000 |
Darparu bagiau baw cŵn | 0 | 34,000 | 10,000 |
Cynyddu capasiti cyflawni | 0 | 40,400 | 39,000 |
Ehangu'r casgliadau ar wahân ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol | 0 | 35,500 | 260,000 |
Diweddaru polisïau | 0 | 0 | 0 |
Cynwysyddion | 0 | 0 | 0 |
Mynd i'r afael â llanast posibl ar ôl casgliadau | 0 | 0 | 0 |
Dau Swyddog Ymwybyddiaeth a Chydymffurfiaeth Ailgylchu | 0 | 122,000 | 87,000 |
Gorfodi aelwydydd i ailgylchu | 0 | 0 | 0 |
Ymgynghori ar gynlluniau i gasglu sbwriel bob tair wythnos ochr yn ochr â chasglu deunyddiau ailgylchu bob wythnos i'w cyflwyno yn 2024/25 os na fydd perfformiad yn gwella |
0 | 0 | (260,000) |
Gwella TG ar gyfer archebu gwasanaethau | 0 | 2,100 | 0 |
Adfer o sbwriel yn well | 0 | 6,500 | 6,500 blwyddyn 2 a 3 yn unig |
Treialu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach | 0 | tbc | tbc |
Rhoi'r cynlluniau i ailgyflwyno casgliadau tecstilau o'r neilltu am y tro | 0 | 0 | 0 |
Astudiaeth ddichonoldeb a chais am siopau ailddefnyddio/atgyweirio | 30,000 | 0 | 0 |
Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd a gwell ar yr ‘ochr ddwyreiniol’ | 50,000 | 0 | 0 |
Cwblhau'r broses o uno'r timau casgliadau/gorsaf drosglwyddo | 0 | 0 | 0 |
Is-gyfanswm gyda'r casgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol yn 2024 | 230,000 | 350,000 | 202,400 |
Arbedion Troi Gwastraff yn Ynni/incwm ailgylchu ychwanegol (a/neu gyllid Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr) | 0 | 0 | 202,400 |
Cyfanswm Net | 230,000 | 350,000 | Dim |
Asesiad Effaith Integredig
Mae asesiad effaith cam cyntaf ar gyfer pob mesur wedi cael ei gynnal lle bo angen er mwyn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau deddfwriaethol (o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae copïau o'r Asesiadau Sgrinio wedi'u cynnwys yn Atodiad A. Mae'r asesiadau cam cyntaf wedi dangos nad oes angen asesiad manylach (gyda'r cafeat bod ymgynghoriad arfaethedig wedi'i gynnwys er mwyn ystyried y newid posibl i gasglu gwastraff bob tair wythnos)
Effeithiau ar Gymunedau'r Cymoedd
Disgwylir i'r cynllun gweithredu gael effaith o ran helpu i wella perfformiad ailgylchu ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol gan gynnwys cymunedau'r cymoedd.
Effeithiau ar y Gweithlu
Nid oes effeithiau niweidiol ar y gweithlu'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn. Ymgynghorir â'r gweithlu ar newid posibl i gasglu gwastraff bob tair wythnos, a rhagwelir y byddai hynny'n arwain at rywfaint o ailgyfeirio adnoddau o gasgliadau sbwriel i gasgliadau ailgylchu
Effeithiau Cyfreithiol
Rhoddi cyngor cyfreithiol parhaus mewn perthynas â phob argymhelliad er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion deddfwriaethol priodol. Nid oes effeithiau uniongyrchol yn gysylltiedig â'r argymhellion yn yr adroddiad hwn.
Effeithiau Rheoli Risg
Mae angen cynllun gweithredu er mwyn gwella perfformiad ailgylchu yn unol â gofynion statudol. Byth methu â gwneud hynny'n arwain at risg o ddirwyon blynyddol sylweddol gan Lywodraeth Cymru a niwed i enw da.
Ymgynghori
Nid oes gofyniad yn y Cyfansoddiad i gynnal ymgynghoriad allanol ar yr eitem hon. Mae dwy seminar i bob Aelod a Grŵp Gorchwyl a Gorffen Pwyllgor Craffu wedi cael eu cynnal fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynigion yn yr adroddiad hwn. Er mwyn helpu i ddeall y materion sy'n gysylltiedig ag unrhyw newid i gasglu sbwriel bob tair wythnos, bwriedir ymgynghori â thrigolion a'r gweithlu
Argymhelliad/Argymhellion
Gan roi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir y canlynol:
- Cymeradwyo Mesurau 1, 4, 6, 7 9, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 17, a 18
- Cymeradwyo Mesur 2, gan nodi fel yr argymhellodd y Pwyllgor Craffu y rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd addysgu'r cyhoedd ar y mesurau newydd posibl, a sicrhau y caiff taflenni gwybodaeth, hysbysebion a fideos ‘sut i...’ eu darparu i'r cyhoedd er mwyn ennyn diddordeb a chodi ymwybyddiaeth. Rhoddir pwyslais hefyd ar ddarparu gwybodaeth am yr hyn a fydd yn digwydd i ddeunyddiau ailgylchu ar ôl iddynt gael eu casglu.
- Cymeradwyo Mesur 3, gan nodi ymhellach at fewnbwn y Pwyllgor Craffu y caiff diweddariad ar y ddarpariaeth bagiau baw cŵn ei gynnwys yn yr adroddiad perfformiad chwarterol cyntaf a fydd ar gael 12 mis ar ôl i'r bagiau ddechrau cael eu darparu i'r cyhoedd, gan gynnwys rhestr o fannau casglu ledled y Fwrdeistref Sirol.
- Cymeradwyo Mesur 5 ac, er yr awgrym gan y Pwyllgor Craffu y dylid defnyddio'r biniau storio deunyddiau arfaethedig ar gyfer cyflwyno, argymhellir y dylai gwastraff hylendid amsugnol barhau i gael ei gyflwyno i gael ei gasglu yn y bagiau porffor.
- Cymeradwyo Mesur 8, gan nodi ymhellach at fewnbwn y Pwyllgor Craffu y bydd goruchwylwyr Gwasanaethau Gwastraff a Chymdogaeth yn parhau i fonitro lefelau glendid strydoedd ledled y Fwrdeistref Sirol ac, ar y cyd â rheolwyr gwasanaethau, yn gwneud eu gorau i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n gyson ledled y Fwrdeistref Sirol drwy gyfeirio'r adnoddau sydd ar gael iddynt.
- Cymeradwyo Mesur 11 ac, er yr awgrym gan y Pwyllgor Craffu i'r gwrthwyneb, peidio â gohirio'r ymgyngoriadau ar newid posibl i gasglu sbwriel bob tair wythnos.
- Datblygu protocol cyfathrebu er mwyn tynnu sylw at bolisi'r Cyngor ar gasgliadau a gollwyd a sicrhau negeseuon cyson.
- Datblygu protocol cyfathrebu er mwyn sicrhau yr ymgysylltir â'r cyhoedd yn gyffredinol mewn perthynas â chael adborth ar wasanaethau gwastraff drwy'r gwaith a wneir drwy'r Panel Dinasyddion sydd wedi'i sefydlu.
- Cymeradwyaeth gan yr Aelodau i ddefnyddio'r £350k a nodwyd fel rhan o broses cyllideb refeniw 2023/24 ar gyfer gwastraff ac a ymgorfforwyd yn y gyllideb sylfaenol fel trosglwyddiad untro o'r cronfeydd wrth gefn at ddibenion bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu.
- Cais gan y Pennaeth Gofal Strydoedd i'r Cabinet, drwy Grŵp Llywio'r Rhaglen Gorfforaethol, i ddyrannu £230,000 o gyllid cyfalaf o gronfeydd cyfalaf wrth gefn er mwyn bwrw ymlaen â'r mesurau a gaiff eu cymeradwyo.
Rhesymau dros y Penderfyniad(au) Arfaethedig
Y prif reswm dros roi'r cynllun gweithredu ar waith yw er mwyn parhau i wneud cynnydd tuag at gyrraedd y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70%, gan fynd i'r afael â rhai materion yn ymwneud â gwasanaethau ar yr un pryd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith
Bwriedir i'r penderfyniad gael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod.
Atodiadau
Appendix A – Integrated Impact Screening Assessments
List of Background Papers
Adroddiad Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Phriffyrdd ar 28 Ionawr 2016 – Cyfyngu ar Wastraff Ochr
Adroddiad Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet ar 20 Gorffennaf 2018 – Diweddariad ar y Strategaeth Wastraff
Adroddiad Cabinet ar 30 Medi 2020 – Casgliadau Tecstilau wrth Ymyl y Ffordd
Seminarau i Bob Aelod a chyflwyniadau ar 13 Hydref 2022 ac 16 Chwefror 2023
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar 3 Mawrth 2023 – Ystyried Argymhellion yr Adroddiad ar y Strategaeth Wastraff