Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Strategaeth Diwylliant 2023

Wrth i ni ymadfer wedi Covid-19 ac wynebu her aruthrol y newid yn yr hinsawdd ac argyfwng byd natur, rydym ni’n credu bod diwylliant yn offeryn eithriadol o bwerus i’n helpu i ailgysylltu â’n gilydd, cydweithio, a datblygu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae angen i ni gael hyd i ffyrdd newydd o ddathlu Castell-nedd Port Talbot, ein lle anhygoel, mewn modd cynhwysol ac agored, a rhannu ein hadnoddau fel bod ein holl drigolion ac ymwelwyr yn gallu mwynhau’r gorau o’n celfyddydau, ein treftadaeth a’n chwaraeon.