Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mae angen i'r Cyngor:

  • cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • hyrwyddo gwydnwch ecosystemau wrth gyflawni ei swyddogaethau

Mae'r cynllun hwn yn dangos sut y byddwn yn cyflawni'r ddyletswydd honno. Bydd yn gweithredu fel sbardun ar gyfer gweithgareddau cadwraeth ledled Castell-nedd Port Talbot.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a chynghorau, gynllunio a darparu gwasanaethau yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae ein Cynllun Corfforaethol 2022-2027 yn cydnabod y gofyniad hwn. Mae ein Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (BDP) hefyd yn esbonio:

  • sut yr ydym yn cyflawni amcanion lles
  • y ffyrdd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Adroddiad Gweithredu BDP 2020-2023 yn disgrifio’r hyn a wnaethom i gyflawni’r camau gweithredu yn y cynllun diwethaf.  Mae'n mynd ymlaen i:

  • gwneud argymhellion ar sut i ddatblygu pob cam gweithredu
  • cynnig camau gweithredu newydd

Rydym yn rhoi'r argymhellion hyn ar waith yn y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth newydd ar gyfer 2023-2026. Cymeradwyodd y Cyngor Gynllun 2023-2026 ym mis Rhagfyr 2023. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad gweithredu cysylltiedig yn 2026.

Llawrlwytho

  • Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth 2023-2026 (DOCX 6.24 MB)

    i.Id: 4365
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth 2023-2026
    mSize: 6.24 MB
    mType: docx
    i.Url: /media/njcjutcb/cynllun-dyletswydd-bioamrywiaeth-cyngor-castell-nedd-port-talbot-2023-2026.docx

  • Adroddiad Gweithredu Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth 2020-2023 (DOCX 7.19 MB)

    i.Id: 5071
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Adroddiad Gweithredu Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth 2020-2023
    mSize: 7.19 MB
    mType: docx
    i.Url: /media/fctnuopj/adroddiad-gweithredu-cynllun-dyletswydd-bioamrywiaeth-2020-2023.docx

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau