Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Strategaeth dadgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy

Ar 30 Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod argyfwng o ran yr hinsawdd. Yng Nghymru, tynnodd y cyhoeddiad hwnnw sylw at faint ac arwyddocâd y dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch y newid yn yr hinsawdd.

Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, rydym yn cydnabod bod argyfwng hinsawdd.

Mae dibyniaeth ar ynni budr yn bygwth ein ffordd o fyw. Oni bai ein bod yn ymateb, bydd pawb yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot ac ar draws y byd yn teimlo'r effaith. Mae'r cyngor yn benderfynol o ymateb gydag ymrwymiad a chyflymdra. Felly, mae'r strategaeth DARE (Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy) hon yn cynrychioli ein hymateb cytbwys i'r heriau a wynebwn.

Rydym am i Gastell-nedd Port Talbot fod wrth wraidd newid cadarnhaol. Mae'r pwyslais ar weithredu, a hoffem weithio â phartneriaid i gyflymu'r newid sy'n ofynnol. Rydym am i bobl Castell-nedd Port Talbot ymrwymo i DARE gyda ni.