Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Siarter Creu Lleoedd Cymru

Creu Lleoedd Cymru Llofnodydd y Siarter

Creu lleoedd yn y galon cynllunio

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lofnodwyr Siarter Creu lleoedd Cymru.

Datblygwyd y siarter gyda Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Dylunio ar gyfer Cymru ochr yn ochr â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru – grŵp amlddisgyblaethol sy’n cynrychioli cyrff proffesiynol a sefydliadau sy’n gweithio yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Mae llofnodwyr yn addo I gynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu cynigion i ddewis lleoliadau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd – ac i flaenoriaethu cerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru’n cynnwys y chwe egwyddor hyn:  

Pobl a chymuned

Mae’r gymuned leol yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu cynigion. Mae anghenion, uchelgais, iechyd a llesiant pawb yn cael ei ystyried o’r dechrau’n deg. Llunnir cynigion i helpu i gwrdd â’r anghenion hyn yn ogystal â chreu, integreiddio, gwarchod a / neu wella ymdeimlad o gymuned ac i hybu cydraddoldeb.

Lleoliad

Dylai lleoedd dyfu a datblygu mewn ffordd sy'n defnyddio tir yn effeithlon, yn cefnogi ac yn gwella lleoedd sy'n bodoli eisoes ac sydd â chysylltiad da. Mae lleoliad tai, cyflogaeth a hamdden a chyfleusterau eraill wedi'u cynllunio i helpu i leihau'r angen i deithio.

Hunaniaeth

Mae rhinweddau cadarnhaol, unigryw lleoedd presennol yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Nodir ac ymatebir i nodweddion a chyfleoedd unigryw lleoliad gan gynnwys treftadaeth, diwylliant, iaith, priodoleddau corfforol adeiledig a naturiol.

Symud

Mae cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu blaenoriaethu i ddarparu dewis o ddulliau cludo ac osgoi dibyniaeth ar gerbydau preifat. Mae llwybrau teithio egnïol diogel wedi'u cynllunio'n dda yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio egnïol ehangach a gorsafoedd trafnidiaeth gyhoeddus ac mae arosfannau wedi'u hintegreiddio'n gadarnhaol.

Defnydd cymysg

Mae gan leoedd ystod o ddibenion sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol, twf busnesau lleol a mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau trwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus. Mae dwysedd datblygu a chymysgedd o ddefnyddiau a deiliadaeth yn helpu i gefnogi cymuned amrywiol a thir cyhoeddus bywiog.

Y parth cyhoeddus

Mae strydoedd a mannau cyhoeddus wedi'u diffinio'n dda, yn groesawgar, yn ddiogel ac yn gynhwysol, gyda hunaniaeth unigryw. Fe'u dyluniwyd i fod yn gadarn ac yn addasadwy, gyda thirwedd, seilwaith gwyrdd a draeniad cynaliadwy wedi'u hintegreiddio'n dda. Maent wedi'u cysylltu'n dda â lleoedd sy'n bodoli eisoes ac yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac ystod o weithgareddau i bawb.


Yn ôl y Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: “Mae pandemig Covid-19 a’r cyfnodau clo a ddaeth yn ei sgil wedi gwneud i ni werthfawrogi ein ‘mannau lleol’ yn fwy nag erioed.

“Wrth i ni edrych i’r dyfodol agos ac at adnewyddu ac adfywio’r lleoedd ble rydyn ni’n byw a gweithio, dylen ni ganolbwyntio nawr ar gymhwyso egwyddorion creu lle da er mwyn i ni allu adeiladu lleoedd cynaliadwy sy’n cynnig manteision i’n hiechyd a’n llesiant.”