Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Rheoli Asedau

Mae'r Cynllun hwn yn nodi cynigion y Cyngor ar gyfer defnydd effeithiol o'i asedau eiddo i gynnig darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd a mentrau adfywio o bwys.

Mae'r ddogfen hon yn cynrychioli ymrwymiad i fabwysiadu ymagwedd wirioneddol strategol wrth ystyried ein gofynion am eiddo a llety.

Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau yn y gorffennol o ran darparu atebion rheoli asedau arloesol ac wrth gefnogi mentrau adfywio eang.

Fodd bynnag, mae’r her ariannol anodd sy'n wynebu pob sefydliad cyhoeddus ar lefel genedlaethol a lleol yn sicrhau y bydd angen i ni weithio yn galetach i sicrhau fod gennym bortffolio cynaliadwy sy'n rhoi gwerth am arian.