Cyllideb refeniw’r Cyngor
Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i’r cyngor bennu cyllideb ar gyfer ei wariant o ddydd i ddydd, y gyllideb refeniw. Mae’n ofynnol o dan y gyfraith bod y cyngor yn pennu cyllideb gytbwys, sy’n golygu na all y gwariant fod yn fwy nag incwm y cyngor.
Cyllideb Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2024-25 yw £376.6m
O ble mae’r arian yn dod?
- £285.2m (76%) - oddi wrth Lywodraeth cymru
- £91.4m (24%) - eich Treth y Cyngor
Ble mae’r arian yn mynd?
Mae’r cyngor yn defnyddio’i gyllideb i ddarparu cannoedd o wahanol wasanaethau i drigolion y fwrdeistref sirol. Rhai ohonynt yn rhai amlwg iawn, fel:
- casglu gwastraff
- chynnal ffyrdd
Mae gwasanaethau eraill yn aml allan o’r golwg, er enghraifft:
- darparu gofal maeth i blant
- gofalu am bobl hŷn a bregus
- cyflawni archwiliadau hylendid bwyd
- cyfraniad i Wasanaeth Tân Caolbarth a Gorllewin Cymru
- darparu addysg i blant ag anghenion arbennig
Darllenwch y Cyllideb Refeniw’r Cyngor 2024-25 (Yn Saesneg).