Strategaeth Tai a Digartrefedd
Strategaeth Tai Lleol 2015-20
Mae'r strategaeth hon yn amlinellu'n gweledigaeth ar gyfer ymdrin ag anghenion tai dinasyddion:
"Bydd tai yng Nghastell-nedd Port Talbot yn briodol, yn fforddiadwy ac o safon mewn cymunedau cynaliadwy, gan gynnig dewisiadau a chefnogaeth i bobl os bydd eu hangen arnynt".
Mae'r strategaeth yn amlinellu'r angen am dai sy'n fwy fforddiadwy ac yn ceisio cynyddu cyflenwad a hygyrchedd yn y lleoedd cywir.Mae'r strategaeth hefyd yn ceisio gwella ansawdd y stoc dai (tai cymdeithasol a phreifat) a sicrhau bod cefnogaeth dai ar gael i'r rhai y mae ei hangen arnynt.
Adolygiad Digartrefedd 2018
Comisiynodd y cyngor adolygiad annibynnol o sut mae'n ymateb i bobl sy'n wynebu digartrefedd er mwyn i ni weld sut gallwn adeiladu ar ein harfer presennol a datblygu ffyrdd newydd o weithio. Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys gweithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer newid. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ei wasanaethau tai, roedd ef hefyd yn archwilio cyd-destun y gwasanaethau o ran polisïau ac a yw'r ymateb i ddigartrefedd yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol ehangach yr ardal.
Strategaeth Digartrefedd 2018-22
Mae'r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn bwriadu gweithredu ar ganlyniadau'r adolygiad uchod fel ein bod yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion y rheiny sy'n cael eu bygwth â digartrefedd neu sy'n ddigartref, dros y pedair blynedd nesaf a thu hwnt. Y nod cyffredinol yw gweithredu ymagwedd a fydd yn atal digartrefedd lle bynnag y bo modd ac yn cefnogi'r aelwyd yn effeithiol pan fydd hyn yn digwydd. I'r perwyl hwn, rydym yn cynnig symud y ffocws o ymatebion brys a chyflawni ein dyletswyddau o ran digartrefedd i aelwydydd mewn argyfwng drwy archwilio'r canlynol:
- Mwy o gefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn atal digartrefedd cyn iddo ddatblygu'n argyfwng;
- cefnogaeth ac opsiynau llety sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth sydd wedi bod yn ddigartref fwy nag unwaith ac mae angen amrywiaeth o wasanaethau arnynt; a
- helpu pobl i gael llety parhaol a lleihau'r angen am lety dros dro.
Asesiad o Farchnad Dai Ranbarthol 2020
Cydweithiodd yr Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Canolbarth a De-orllewin Cymru canlynol i ddiweddaru eu hasesiadau o'r farchnad dai. Comisiynwyd Gwasanaethau Ymchwil Barn i lunio'r ddogfen hon, gan gyflwyno data wedi'i fodelu'n gadarn a sylfaen dystiolaeth gyson ar y farchnad dai ar draws rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru. Mae'r ddogfen hon, wedi'i hategu gan asesiadau priodol a gynhaliwyd ar lefel awdurdod unigol, yn gweithredu fel Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA):
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
- Cyngor Sir Gâr ;
- Cyngor Sir Ceredigion ;
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot ;
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro;
- Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys a
- Dinas a Sir Abertawe.
Crynodeb o Farchnad Dai Leol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2020
Comisiynwyd Gwasanaethau Ymchwil Barn gan awdurdodau lleol Canolbarth a De-orllewin Cymru i gynnal asesiad traws-ffiniol o anghenion tai yn unol ag arfer gorau. Mae'r ddogfen hon yn ddadansoddiad is-ardal ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a dylid ei darllen ochr yn ochr â'r adroddiad rhanbarthol ehangach sy'n cyd-fynd â hi.
Prosbectws Grant Tai Cymdeithasol 2021
Dywed ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2019-21 sef 'Llunio CNPT', ein bod am i bob person fyw mewn llety addas sy'n diwallu ei anghenion. Nid yw pawb mewn sefyllfa i sicrhau hyn ei hun drwy brynu ei gartref ei hun neu rentu un gan landlord preifat. Mae'r prosbectws hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu defnyddio'n rheolaeth o Raglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru i ddarparu cynifer o dai fforddiadwy â phosib i'r aelwydydd hynny.
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
Cafodd y Cyngor gadarnhad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau a Phlant, ar 8 Mawrth 2024, fod astudiaeth Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALIST) 2022 wedi cael ei chymeradwyo.
Bydd Astudiaeth 2022 yn awr yn disodli’r astudiaeth flaenorol a gynhaliwyd yn 2016.
Yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) newydd, er mwyn asesu anghenion llety’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr i’r dyfodol. Mae'r ALIST 2022 yn nodi'r angen darpariaeth ychwanegol o ran safleoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer lleiniau preswyl parhaol a/neu leiniau dros dro yn y tymor byr a hyd at 2036.
Mae fersiwn derfynol y ALIST nesaf i gael ei chwblhau a’i chyhoeddi erbyn 24 Chwefror 2027.
Bydd ALIST 2022 ar gael i’w lawrlwytho yma a'r dudalen we Polisi Cynllunio.
Mae'r dogfennau uchod ar gael i'w lawrlwytho isod.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'r dogfennau, cysylltwch â'r canlynol:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Strategaeth Tai a Digartrefedd
Y Ganofan Ddinesig
Castell-nedd
SA11 3QZ
Ffôn: (01639) 685207
Cyfeiriad e-bost: housing.strategy@neath-porttalbot.gov.uk
Llawrlwythiadau
-
Local Housing Strategy 2015-2020 (PDF 10.35 MB)
-
Housing Market Evidence for: Mid and South West Wales 2019 (PDF 2.70 MB)
-
Homelessness Strategy 2018-2022 (PDF 1.05 MB)
-
Neath Port Talbot Homelessness Review 2018 (PDF 806 KB)
-
Gypsy and Traveller Accommodation Assessment (GTAA) – February 2016 (PDF 2.70 MB)
-
Summary of Local Housing Market for Neath Port Talbot 2019 (PDF 1.29 MB)
-
NPT GTAA 2022 (PDF 1.27 MB)
-
Polisi Codi Tâl Llety Dros Dro (PDF 767 KB)
-
Polisi atal ac adennill ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth (PDF 821 KB)
-
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (PDF 110 KB)