Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cadw’n Ddiogel

Mae cadw’n ddiogel yn golygu gallwch chi gael mwy o hwyl!

Dyma lle cewch chi ragor o awgrymiadau ynghylch sut mae cadw’n ddiogel a theimlo’n fwy hyderus gartref neu o gwmpas.

Lles Plant

Mae llawer o gyngor ac arweiniad yng Nghastell-nedd Port Talbot, Cymru a’r Deyrnas Unedig ynghylch sut mae cadw plant yn ddiogel a beth i’w wneud os ydych chi’n pryderu am les plentyn. Mae’r sefydliadau isod yn cynnig gwasanaethau, cyngor, gwybodaeth, taflenni, canllawiau ac awgrymiadau ynghylch lles plant.

Dolenni defnyddiol

Bwlio

Cyngor i rieni a gofalwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel rhag bwlio, ble bynnag mae’n digwydd.

Dolenni defnyddiol

Diogelwch Ffyrdd

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch sut mae cadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda’ch plant.

Dolenni defnyddiol

Diogelwch ar y Rhyngrwyd

Mae Diogelwch ar y Rhyngrwyd yn fater sy’n dod yn fwyfwy pwysig.  
Yma cewch ddolenni i’ch tywys at safleoedd ac adnoddau fydd yn eich cyfeirio i sicrhau eich bod chi a’ch plant yn defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.

Chwarae’n Ddiogel

 Awgrymiadau ar sut mae cadw plant yn ddiogel wrth chwarae gartref neu oddi cartref.

A sut mae siarad â’ch plentyn am ymwneud â dieithriaid. 

Hefyd mae syniadau a dolenni defnyddiol eraill ar gael ar ein Tudalen Chwarae.

Diogelwch Arall

Isod mae dolenni eraill defnyddiol i gadw’n ddiogel gartref ac oddi cartref, p’un ai Dŵr/Tân/Nwy/ Diogelwch Trydanol neu gyngor ar Garbon Monocsid a chynnyrch yn y cartref sydd dan sylw.

Mae cyngor hefyd ar ddiogelwch Tân Gwyllt, ynghyd â diogelwch cyffredinol ar beryglon tagu a baglu.