Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaeth llyfrgell gartref

Ddim yn gallu ymweld â'ch llyfrgell leol? Gadewch i ni ddod â'r llyfrgell atoch chi.

Llyfrgell gartref

  • mae'r Gwasanaeth Llyfrgell Gartref yn rhad ac am ddim
  • rydym yn cefnogi pobl o bob oed sy'n cael anhawster i gael mynediad i'r llyfrgell
  • staff ymroddedig a hyfforddedig
  • delio â pherson enwebedig o'ch dewis
  • nid ydym yn cynnal unrhyw asesiadau o'ch iechyd na'ch cyflyrau meddygol presennol
  • mae unrhyw wybodaeth bersonol yn gwbl gyfrinachol
  • cyfeirio eich hun neu ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu weithiwr proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol eich cyfeirio
  • gallwch atgyfeirio rhywun arall os ydych yn credu y byddai'n elwa o'r gwasanaeth

Gwasanaethau a ddarparwn

  • ymweliadau rheolaidd am ddim (bob 6 wythnos fel arfer)
  • benthyciadau llyfrgell a ddarperir yn uniongyrchol i'ch cartref
  • archebion am ddim
  • cyfnod benthyca hirach
  • newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg
  • dim ffioedd neu ddirwyon
  • gwasanaeth ledled y sir i holl drigolion CNPT

Eitemau sydd ar gael

  • detholiad eang o lyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion mewn print arferol a bras
  • llyfrau sain ar ffurf casét, CD ac MP3
  • benthyg offer sain drwy Gronfa Di-wifr Prydain i'r Deillion (prawf cymhwysedd)
  • mynediad i e-lyfrau
  • Cymraeg

Gweler ffioedd gwasanaethau llyfrgell i weld beth sydd ar gael

Ar ôl i chi ymuno

Ar ôl i chi ymuno â'r gwasanaeth byddwn yn:

  • cadarnhau dyddiad ac amser amcangyfrifedig eich dosbarthiad cyntaf
  • esbonio sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu
  • rhoi gwybod pa mor aml y byddwn yn ymweld â'ch cartref

Sut i wneud cais

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion isod:

Cyfarwyddiadau i SA11 2BQ
Pencadlys Llyfrgell CNPT
Ysgol Ynysmaerdy Ffordd Castell-nedd Llansawel SA11 2BQ pref
(01639) 899829 (01639) 899829 voice +441639899829