Triniaeth Rheoli plâu
Rydym yn cynnig gwasanaeth trin plâu â thâl ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Gallwch hefyd:
- rhoi gwybod am broblem rheoli plâu sydd ddim ar eich tir
- gofyn am gyngor dros y ffôn gan Swyddog Rheoli Plâu (bydd angen i chi roi eich rhif ffôn i ni)
Mae ein holl staff wedi eu cymhwyso i safonau Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain.
Plâu rydym yn eu trin (gwasanaeth â thâl)
- morgrug (y tu mewn i'r adeilad)
- chwilod gwely
- chwilod duon
- chwain
- llygod
- llygod mawr
- gwenyn meirch
Gwahaniaethau rhwng gwenyn meirch a gwenyn
Cyn cysylltu â ni ynglŷn â gwenyn meirch a gwenyn, defnyddiwch y wybodaeth isod i ddarganfod y gwahaniaeth.
Gwenyn meirch
- du a melyn llachar
- ychydig neu ddim gwallt
- fel arfer 1-2 cm o hyd
- dydyn nhw ddim yn heidio
Mwy o wybodaeth am wenyn meirch
Gwenyn
- fel arfer yn llai na gwenyn meirch
- blewog â gwallt byr
- heidio yn ystod y gwanwyn a'r haf
Mwy o wybodaeth am wenyn
Prisiau triniaeth
Triniaethau cartref
Pla | Triniaeth | Cyfanswm gan gynnwys TAW |
---|---|---|
morgrug (tu fewn) | 1 driniaeth | £73.37 |
Chwilod duon a llau gwely | 1 driniaeth | £148.66 |
Chwain | 1 driniaeth | £73.37 |
Llygod mawr a llygod | Mae 2 ail ymweliad wedi'u cynnwys o fewn y ffi | £43.00 |
Gwenyn meirch | 1 driniaeth | £73.37 |
Triniaethau busnes
Cysylltwch â rheoli plâu i gael y cytundebau sydd ar gael
Pla | Triniaeth | Cyfanswm heb gynnwys TAW |
---|---|---|
Llygod mawr, llygod a phryfed | 1 driniaeth | £92.56 |
Amseroedd archebu
Dydd | Bore | Prynhawn |
---|---|---|
Dydd Llun | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 |
Dydd Mawrth | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 |
Dydd Mercher | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 |
Dydd Iau | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 |
Dydd Gwener | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 16.30 |
Trefnwch driniaeth rheoli pla
Mae angen talu ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau a gellir eu harchebu ar-lein:
- Cynhelir ymweliadau yn ystod oriau swyddfa
- Ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau gwaith, bydd angen i chi gysylltu â chwmni rheoli pla
-
Os oes angen cyngor dros y ffôn arnoch, gallwch ofyn am alwad gan Swyddog Rheoli Plâu (bydd angen i chi roi eich rhif ffôn i ni)
Yn dilyn archeb
- Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich taliad a'ch apwyntiad
- Bydd Swyddog Rheoli Plâu yn cysylltu â chi y diwrnod cyn eich ymweliad i gadarnhau'r amser cyrraedd amcangyfrifedig
- Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad, bydd manylion ar sut i wneud hyn yn cael eu cynnwys yn eich e-bost cadarnhau
Canslo ac ad-dalu
- Rhaid i chi ganslo cyn ymweliad y Swyddog Rheoli Plâu i gael ad-daliad llawn
- Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad os bydd Swyddog Rheoli Plâu yn cyrraedd ar gyfer apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw