Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Triniaeth Rheoli plâu

Rydym yn cynnig gwasanaeth trin plâu â thâl ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gallwch hefyd:

  • rhoi gwybod am broblem rheoli plâu sydd ddim ar eich tir
  • gofyn am gyngor dros y ffôn gan Swyddog Rheoli Plâu (bydd angen i chi roi eich rhif ffôn i ni)

Mae ein holl staff wedi eu cymhwyso i safonau Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain.

Plâu rydym yn eu trin (gwasanaeth â thâl)

Y math o blâu rydym yn darparu triniaeth ar eu cyfer:
  • morgrug (y tu mewn i'r adeilad)
  • chwilod gwely
  • chwilod duon
  • chwain
  • llygod
  • llygod mawr
  • gwenyn meirch
Nid ydym yn darparu triniaeth ar gyfer gwenyn gan eu bod yn fuddiol iawn i'r amgylchedd.

Gwahaniaethau rhwng gwenyn meirch a gwenyn

Cyn cysylltu â ni ynglŷn â gwenyn meirch a gwenyn, defnyddiwch y wybodaeth isod i ddarganfod y gwahaniaeth.

Gwenyn meirch

  • du a melyn llachar
  • ychydig neu ddim gwallt
  • fel arfer 1-2 cm o hyd
  • dydyn nhw ddim yn heidio

Mwy o wybodaeth am wenyn meirch

Gwenyn

  • fel arfer yn llai na gwenyn meirch
  • blewog â gwallt byr
  • heidio yn ystod y gwanwyn a'r haf

Mwy o wybodaeth am wenyn

Prisiau triniaeth

Triniaethau cartref
Pla Triniaeth Cyfanswm gan gynnwys TAW
morgrug (tu fewn) 1 driniaeth £73.37
Chwilod duon a llau gwely 1 driniaeth £148.66
Chwain 1 driniaeth £73.37
Llygod mawr a llygod Mae 2 ail ymweliad wedi'u cynnwys o fewn y ffi £43.00
Gwenyn meirch 1 driniaeth £73.37
Triniaethau busnes

Cysylltwch â rheoli plâu i gael y cytundebau sydd ar gael

Pla Triniaeth Cyfanswm heb gynnwys TAW
Llygod mawr, llygod a phryfed 1 driniaeth £92.56

Amseroedd archebu

Bydd swyddog rheoli plâu yn ymweld rhwng slotiau amser y bore a’r prynhawn canlynol:

Dydd Bore Prynhawn
Dydd Llun 08.30 - 12.00 12.00 - 17.00
Dydd Mawrth 08.30 - 12.00 12.00 - 17.00
Dydd Mercher 08.30 - 12.00 12.00 - 17.00
Dydd Iau 08.30 - 12.00 12.00 - 17.00
Dydd Gwener 08.30 - 12.00 12.00 - 16.30

Trefnwch driniaeth rheoli pla

Mae angen talu ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau a gellir eu harchebu ar-lein:

  • Cynhelir ymweliadau yn ystod oriau swyddfa
  • Ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau gwaith, bydd angen i chi gysylltu â chwmni rheoli pla
  • Os oes angen cyngor dros y ffôn arnoch, gallwch ofyn am alwad gan Swyddog Rheoli Plâu (bydd angen i chi roi eich rhif ffôn i ni)

Yn dilyn archeb

  1. Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich taliad a'ch apwyntiad
  2. Bydd Swyddog Rheoli Plâu yn cysylltu â chi y diwrnod cyn eich ymweliad i gadarnhau'r amser cyrraedd amcangyfrifedig
  3. Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad, bydd manylion ar sut i wneud hyn yn cael eu cynnwys yn eich e-bost cadarnhau

Canslo ac ad-dalu

  • Rhaid i chi ganslo cyn ymweliad y Swyddog Rheoli Plâu i gael ad-daliad llawn
  • Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad os bydd Swyddog Rheoli Plâu yn cyrraedd ar gyfer apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw