Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu
Fel arfer, bydd angen Cymeradwyaeth Rheoliadau arnoch yn yr achosion canlynol:
- Pan fyddwch yn codi neu'n estyn adeilad, oni bai ei fod yn adeiledd eithriedig. Os bydd angen mwy o wybodaeth ar y rhain arnoch, Cysylltwch Rheoli Adeiladu.
- Pan fyddwch yn gwneud newid materol i adeilad e.e. gwneud newidiadau adeileddol neu flocio drysau mewnol neu ddymchwel waliau sy'n effeithio ar y gallu i ddianc mewn tân.
- Pan fyddwch yn estyn neu'n newid gwasanaeth a reolir mewn adeilad e.e. gosod tŷ bach neu system wresogi.
- Pan fyddwch am newid defnydd sylfaenol yr adeilad. Mae hyn yn cynnwys bwriad i ddefnyddio adeilad fel annedd, sefydliad, gwesty, tŷ llety neu adeilad cyhoeddus nad oedd yn cael ei ddefnyddio at y dibenion hyn yn flaenorol; neu os bydd yr adeilad yn cynnwys mwy neu lai o anheddau nag yn flaenorol.
- Pan fyddwch yn gosod drysau neu ffenestri domestig newydd gan ddefnyddio Adeiladwr neu gwmni ffenestri nad yw wedi'i gofrestru gyda FENSA. Mae angen cais ar gyfer ffenestri/drysau annomestig.
- Wrth wneud gwaith trydanol gan ddefnyddio drydanwr sydd heb gofrestru fel person gwymys.
- Wrth adnewyddu elfen thermal o adeilad neu fewnosod inswleiddio mewn wal geudod.
Nid yw'r uchod yn rhestr gynhwysfawr. Os nad ydych yn sicr, Cysylltwch Rheoli Adeiladu.