Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwneud cais am reoliadau adeiladu

Mae Rheoliadau Adeiladu yn set o safonau ar gyfer dylunio a chodi adeiladau i sicrhau diogelwch ac iechyd y bobl sy'n defnyddio ac yn mynd o amgylch yr adeiladau hynny. Maent hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau bod tanwydd a phŵer yn cael eu harbed a bod cyfleusterau'n cael eu darparu ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae gennych gofyniad cyfreithiol i roi gwybod i'ch awdurdod Adain Rheoli Adeiladu lleol pan ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith adeiladu sy'n cael ei gwmpasu gan y Rheoliadau Adeiladu 2010

Sut i wneud cais

Mae 3 math gwahanol cais sy'n gofyn am lefelau gwahanol o wybodaeth.  

Cynlluniau Llawn

Y ffordd draddodiadol o ein hysbysu o'r gwaith arfaethedig

Hysbysiad Adeiladu

Mae hysbysiad i'r Cyngor am eich bwriad i wneud gwaith adeiladu

Rheoleiddio

Pan fyddwch wedi cwblhau gwaith heb gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Gwneud cais drwy Porth LABC

Anfonwch eich ymholiad rheoliadau adeiladu ar-lein trwy'r Porth LABC

Yn syml, atodi ffurflen gais wedi'i llenwi, unrhyw gynlluniau, lluniadau, manylebau neu gyfrifiadau fel ffeil pdf i:  building.control@npt.gov.uk.  Rhowch fanylion cyswllt fel y gallwn drefnu i'r ffi sy'n ofynnol i gael eu talu, a pharhau â chofrestru a phrosesu eich cais.