Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cysylltwch a'r adran Rheoli Adeiladu

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Rheoli Adeiladu
Y Ceiau,
Ffordd Brunel,
Parc Ynni Baglan
Castell-nedd SA11 2GG pref
(01639) 686820 (01639) 686820 voice +441639686820

Rydym yn croesawu adborth gan ein cwsmeriaid. Defnyddiwch un o'r ffurflenni isod a'i dychwelyd atom neu e-bostiwch ni gydag unrhyw sylwadau.

Cwynion am Gyrff Rheoli Adeiladau

Mae Rheoliadau Adeiladu'r y Llywodraeth wedi'u cyfeirio yn bennaf tuag at faterion iechyd, diogelwch a newid yn yr hinsawdd, ac felly mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu gorfodi'n iawn. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, dylai dyluniadau a phrosiectau sy'n cael eu gwirio'n iawn gan bobl sy'n annibynnol ac yn gymwys i wneud hynny.

Mae cystadleuaeth o fewn y proffesiwn Rheoli Adeiladau wedi arwain at lawer o newidiadau yn y modd y darperir gwasanaethau eu darparu. Fodd bynnag, ni ddylai cystadleuaeth arwain at ostyngiad yn effeithiolrwydd Rheoli Adeiladau wrth helpu i gyflawni cydymffurfiaeth â gofynion pwysig y Rheoliadau Adeiladu.

Rhad i bob Corff Rheoli Adeiladu, p'un a yw'n ddarparwyr yn y sector cyhoeddus neu breifat, gadw at safonau proffesiynol arferol a moeseg busnes. Yn benodol, rhaid i Gorff Rheoli Adeiladau peidio â disodli corff Rheoli Adeiladu arall, nac ennill gwaith, ar sail dehongliad o'r rheoliadau ac ni ddylid peryglu'r egwyddor bod y swyddogaeth Rheoli Adeiladau yn annibynnol.

Cwynion

Mae'n ofynnol gan bob corff Rheoli Adeiladau eu bod yn cynnal ac yn sicrhau bod gweithdrefn gwynion briodol ar gael. Fel awdurdod lleol, mae gan Castell-nedd Port Talbot weithdrefn gwyno ffurfiol yn eu lle.

Mae hefyd yn ofynnol i ddarparwyr sector preifat i gael gweithdrefn gwyno ffurfiol ar waith. Yn amlwg, dylai'r cam cyntaf bob amser i gysylltu â'r darparwr dan sylw.

Fodd bynnag, os yw'r gwyn yn erbyn darparwr sector preifat ac mae angen iddo gael ei drosglwyddo i'r rheolydd, mae angen i’r gwyn gael ei gyfeirio at Gyngor y Diwydiant Adeiladu.

Iawndal am Ddiffygion Adeiladu

Nid pwrpas y Rheoliadau Adeiladu yw darparu gwarant bod unrhyw waith a gwmpesir gan y Rheoliadau Adeiladu yn foddhaol neu i ddarparu iawndal am golled ariannol os daw'n amlwg, ymhen amser, nad yw'r gwaith adeiladu yn foddhaol.

Ceir mynediad i fath hwn o iawndal trwy gynlluniau fel Gwarant Cartrefi Newydd yr LABC cynhyrch yswiriant diffygion cudd y 'Latent Gold' a chynhyrchion eraill gan gynnwys gwarantau 10 mlynedd NHBC, sicrwydd a ddarperir trwy gyhoeddi tystysgrifau pensaer neu syrfëwr yn ogystal â llu o gynlluniau gwarant masnach sy'n bodoli

Nid yw yn rhan o swyddogaeth yr adran Rheoli Adeiladau i:

  • gweithredu fel 'Clerc Gwaith' gan fonitro pob cam o'r broses adeiladu ar y safle. Mae hynny'n fater ar gyfer y cytundebau a'r trefniadau a rhoddwyd ar waith rhwng y cleient a'r adeiladwr. Yn y pen draw, gyfrifoldeb yr unigolyn sy'n cyflawni'r gwaith yw cydymffurfio.
  • mynd i'r afael â materion fel gorffeniad ac estheteg y prosiect terfynol lle nad yw rhain yn cael eu hadeiladu i safonau Rheoliadau Adeiladu - mater i ddylunwyr, adeiladwyr, a darparwyr gwarant gartref newydd yw'r rhain.
  • cynnig amddiffyniad i gleient mewn cytundeb gydag adeiladwr. Mae hwn yn fater i’r gyfraith.