Newyddion diweddaraf
I ddilyn hynt y Cynllun Datblygu Lleol, ewch i’n tudalen Ymgynghori
Ymgynghori anffurfiol ar y Materion Allweddol, y Weledigaeth a’r Amcanion, Opsiynau Twf ac Opsiynau Gofodol
Fel rhan o'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer y CDLlA, fe fuom ni'n cynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ein Materion Allweddol, ein Gweledigaeth, ein Hamcanion, a'r Opsiynau Twf a Gofodol sydd ar gael i ni o 14 Mai 2024 tan 5 Mehefin 2024.
Bydd y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol hwn yn helpu i lywio'r Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y CDLlA.
Y cam nesaf: Ymgynghori ar y Strategaeth a Ffafrir
Mae tîm y CDLl wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar dystiolaeth gefndir er mwyn cynhyrchu'r Strategaeth a Ffafrir. Y Strategaeth a Ffafrir yw'r cyfnod ymgynghori ffurfiol cyntaf wrth baratoi'r CDLlA. Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir yn cael ei gynnal ddiwedd 2024.
Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2023 – wedi cae
Mae'r alwad am safleoedd ymgeisiol 2023 oedd yn rhedeg o 6 Tachwedd tan 18 Rhagfyr 2023 bellach wedi cau. I gael rhagor o wybodaeth am y camau nesaf, ewch i'r dudalen Safleoedd Ymgeisiol.