Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Safleoedd Ymgeisiol

I ddilyn hynt y Cynllun Datblygu Lleol, ewch i’n tudalen YMGYNGHORI

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2023

Mae'r alwad am safleoedd ymgeisiol 2023 oedd yn rhedeg o 6 Tachwedd tan 18 Rhagfyr 2023 bellach wedi cau.

Bydd cyflwyniadau safleoedd ymgeisiol a wneir yn briodol yn cael eu hychwanegu at y gofrestr safleoedd ymgeisiol pan gaiff ei hailgyhoeddi ochr yn ochr â Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) 2023-2038 yn Hydref 2024.

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn asesu’r safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd yn unol â’r fethodoleg asesu safleoedd ymgeisiol sydd ar gael isod:

Mae’r dogfennau hyn hefyd ar gael i’w gweld yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
  • Canolfan Ddinesig Port Talbot, SA13 1PJ
  • Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd, SA11 2GG

Mae cyfres o fideos ‘sut i’ hefyd wedi’u cynhyrchu i helpu i gyflwyno gwybodaeth hyfywedd (Saesneg):

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2022

Yng ngwanwyn 2022 fe wnaethon ni wahodd datblygwyr, tirfeddianwyr a'r cyhoedd i gynnig safleoedd ar gyfer datblygiadau newydd, ailddatblygu neu ddiogelu yn y CDLl Amnewid.

Yr enw ar y safleoedd hyn yw 'safleoedd ymgeisiol'. Cyfrannodd yr holl safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd at y 'Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol', a fu'n destun ymgynghori rhwng 21 Gorffennaf a 22 Medi 2022 ac sydd isod / i'w gweld yma. 

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol (CSY)