Asesiad Rheoliadau Chynefinoedd a Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
Pwrpas yr arfarniad yw edrych ar effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tebygol y CDLl.
Bydd yr ACI yn ymgorffori:
- Arfarniad Cynaliadwyedd
- Asesiad Amgylcheddol Strategol
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
- Asesiad o'r Effaith ar Iechyd
- Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg
Bydd yn edrych ar y strategaeth, polisïau a chynigion yn y cynllun i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Bydd yr ACI yn chwarae rhan bwysig wrth ddangos bod y CDLl yn gadarn. Mae'n elfen annatod o bob cam o'r gwaith o baratoi'r cynllun, gan hysbysu'r CDLl o'r cychwyn cyntaf i'w fabwysiadu.
Adroddiad Cwmpasu'r ACI yw cam cyntaf proses y Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig a bydd yn dogfennu sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu asesu cynaliadwyedd y CDLl.
Gweld Crynodeb Annhechnegol Adroddiad Cwmpasu'r ACI
Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (ARhC)
Mae'r asesiad hwn yn profi a fyddai'r CDLl Newydd yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar unrhyw safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd - megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae tair ACA yn rhannol o fewn ffiniau Castell-nedd Port Talbot ac ystod o rai eraill yn y rhanbarth a allai gael eu heffeithio gan gynigion y CDLl Newydd.
Rhaid ymgymryd ag ARhC y CDLl ochr yn ochr â, ond ar wahân i'r ACI. Bydd canfyddiadau pob proses yn llywio pob asesiad. Bydd y ARhC yn cael ei wneud drwy gydol y broses paratoi CDLl.