Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymholiadau cyn cyflwyno cais

Ein hymrwymiad gwasanaeth

Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflwyno Systemau Draenio Cynaliadwy o Safon i'w Datblygu'n Gyflym’.

Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae ymagwedd y cyngor at systemau draenio cynaliadwy'n parhau i roi pwys mawr ar ddarparu'r cyngor gorau posib i ddatblygwr/ymgeisydd posib cyn ac/neu yn ystod y broses o gyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

O 1 Tachwedd 2018, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio yn unol â'i ddyletswydd newydd fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy o dan Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Fel rhan o'r trafodaethau cychwynnol, mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth a gyflwynir gynnwys y canlynol:

  • Llwybrau llif y dŵr
  • Mannau gollwng dŵr
  • Cynllun cyfuchlinol

Bwriedir i 'Brotocol Gwasanaeth cyn Cyflwyno Cais y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy' gynrychioli'n rhagweithiol ddatganiad gwasanaeth y cyngor o ran yr holl wasanaethau cyn cyflwyno cais a gyflwynir, y mae'n rhaid talu amdanynt neu beidio. Yn ogystal ag amlinellu'r drefn codi tâl, mae hefyd yn nodi manylion lefel yr wybodaeth y dylid ei chyflwyno ac ansawdd yr ymateb a ddisgwylir wrth gysylltu â'r cyngor mewn trafodaethau cyn ymgeisio.

Llawrlwythiadau

  • Ffurflen Gais ar gyfer derbyn Cyngor Cyn Ymgeisio ar Systemau Draenio Cynaliadwy am ddatblygiadau newydd (DOCX 236 KB)

Beth mae'r nodyn arweiniol hwn yn ei gynnwys?

Mae'r arweiniad hwn yn cynnwys darpariaeth cyngor cyn cyflwyno cais gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer Castell-nedd Port Talbot fel a ganlyn:

  • y gwasanaeth cyn cyflwyno cais a gynigir gan Gastell-nedd Port Talbot (Adran 5)
  • darpariaeth cyngor ychwanegol yn dilyn ymateb ysgrifenedig cychwynnol a dderbynnir dan y gwasanaeth statudol (Adran 6.1) 

Anogir datblygwyr, fodd bynnag, i ymgymryd â thrafodaethau anffurfiol â'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn cyflwyno cais.

Ymrwymiad gwasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais

Mae ymagwedd y cyngor at ddraenio cynaliadwy'n parhau i roi pwys mawr ar ddarparu'r cyngor gorau posib i ddatblygwr/ymgeisydd posib cyn y cyflwynir cais ffurfiol i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

Ein hymrwymiad gwasanaeth i chi:

Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflwyno Datblygiad o Safon yn Gyflym'.

Manteision cael ein cyngor cyn cyflwyno cais

Rydym wedi canfod bod ymgysylltu â'n cwsmeriaid cyn gynted â phosib yn ystod cynnig datblygu yn hanfodol i nod allweddol y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i "Gyflwyno Datblygiad o Safon yn Gyflym" ac mae'n rhoi manteision allweddol i'n cwsmeriaid, gan gynnwys: -

  • gwella cyflymder y broses o wneud penderfyniadau a gwella ansawdd cynigion datblygu.
  • nodi cyfyngiadau posib ac a fydd angen cymorth arbenigol arnoch, er enghraifft, mewn perthynas â choed, tirwedd, llifogydd, tir llygredig, ecoleg neu archaeoleg.
  • cael barn gan swyddog y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ynglŷn ag a yw'ch datblygiad yn debygol o fod yn dderbyniol (gan ddibynnu, wrth gwrs, ar asesiad yn ystod y cam cyflwyno cais), ac, os nad yw'n dderbyniol, y gallu i nodi atebion posib yn gynnar yn y broses. Fel arall, os yw eich cynigion yn hollol annerbyniol, gall y gwasanaeth hwn arbed amser ac arian i chi drwy osgoi parhau i gyflwyno cais.
  • eich cynghori ar yr wybodaeth y mae ei hangen i gefnogi'ch cais, gan roi'r cyfle gorau i chi i gyflwyno cais dilys a chynhwysfawr y gellir ei brosesu ar unwaith.
  • bydd eich ymgynghorwyr proffesiynol eich hun yn treulio llai o amser yn llunio cynigion. 

Gwasanaeth cyn cyflwyno cais

Sylwer unwaith y bydd cais am gyngor cyn cyflwyno cais wedi cael ei ddilysu, ni ellir ad-dalu'r ffïoedd.

Beth gallwch ei ddisgwyl gennym ni?

Yn dilyn cyflwyno ffurflen cyn cyflwyno cais, bydd y Swyddog Achos neilltuedig yn gwneud y canlynol:

  • cysylltu â chi i drafod eich cais
  • yn ôl disgresiwn y Swyddog Achos, trefnir naill ai un ymweliad safle neu gyfarfod
  • ymateb i chi'n ysgrifenedig. 

Sylwer:

  • mae'r ffïoedd yn cynnwys holl gostau'r swyddogion a chostau gweinyddu sy'n gysylltiedig ag ymchwilio ac ymateb i gais ysgrifenedig am gyngor.
  • mae'r ffïoedd a restrir yn y protocol hwn yn ychwanegol at y ffïoedd sy'n daladwy ar gyfer cyflwyno ceisiadau. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl derbyn cyngor rydych wedi talu amdano, mae'r ffi cyflwyno cais lawn yn briodol.
  • nid yw'r gwasanaeth cyn cyflwyno cais yn gyfrinachol. 

Os ydych am gael trafodaethau neu gyfarfodydd ychwanegol/pellach â swyddogion, neu os oes angen ymateb ysgrifenedig ychwanegol arnoch i ddarluniadau diwygiedig ar ôl derbyn ein hymateb cychwynnol, darperir y rhain fel ymateb 'cyn cyflwyno cais' newydd.

Bydd yn rhaid i chi dalu ffïoedd o'r fath ymlaen llaw.

Byddem yn eich annog i ddefnyddio'r gwasanaeth dewisol a amlinellir uchod i ddarparu cyngor cychwynnol cyn cyflwyno cais.

Sut i gyflwyno cais am gyngor cyn cyflwyno cais

Oes rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais?

Mae'n rhaid cyflwyno'r holl geisiadau am gyngor cyn cyflwyno cais gan ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau benodol ynghylch cyngor cyn cyflwyno cais, a darperir copi o hon yn Atodiad A.

Mae'n rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan Wasanaeth Peirianneg y cyngor sy'n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy) cyn i waith adeiladu ddechrau. Yn hyn o beth, mae'n hanfodol bod datblygwr unrhyw brosiect o'r fath yn cael cymeradwyaeth gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy am ei ddull draenio dŵr arwyneb, ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol. Gall methu ymgysylltu ar y cyd cyn cyflwyno cais - pan fo'n bosib gwneud hynny - arwain at oediadau ac, yn arbennig, yr angen i gael caniatâd cynllunio pellach os na fydd dyluniad y systemau draenio cynaliadwy'n cydymffurfio â'r caniatâd cynllunio perthnasol.

Am y rheswm hwn, mae manteision clir i unrhyw ddatblygwr gysylltu â'r cyngor ar gyfer trafodaethau cyn cyflwyno cais â'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy mewn un gwasanaeth cyfun cyn cyflwyno cais. Rhagor o wybodaeth.