Ymholiadau cyn cyflwyno cais
Ein hymrwymiad gwasanaeth
Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflwyno Systemau Draenio Cynaliadwy o Safon i'w Datblygu'n Gyflym’.
Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy
Mae ymagwedd y cyngor at systemau draenio cynaliadwy'n parhau i roi pwys mawr ar ddarparu'r cyngor gorau posib i ddatblygwr/ymgeisydd posib cyn ac/neu yn ystod y broses o gyflwyno cais cynllunio ffurfiol.
O 1 Tachwedd 2018, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio yn unol â'i ddyletswydd newydd fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy o dan Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Fel rhan o'r trafodaethau cychwynnol, mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth a gyflwynir gynnwys y canlynol:
- Llwybrau llif y dŵr
- Mannau gollwng dŵr
- Cynllun cyfuchlinol
Bwriedir i 'Brotocol Gwasanaeth cyn Cyflwyno Cais y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy' gynrychioli'n rhagweithiol ddatganiad gwasanaeth y cyngor o ran yr holl wasanaethau cyn cyflwyno cais a gyflwynir, y mae'n rhaid talu amdanynt neu beidio. Yn ogystal ag amlinellu'r drefn codi tâl, mae hefyd yn nodi manylion lefel yr wybodaeth y dylid ei chyflwyno ac ansawdd yr ymateb a ddisgwylir wrth gysylltu â'r cyngor mewn trafodaethau cyn ymgeisio.